Ansawdd archwilio

Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau. Rydym wedi datblygu methodolegau archwilio i gydymffurfio â Safonau Rhyngwladol sy'n cael eu hystyried yn arfer proffesiynol gorau. 

Mae ein trefniadau ansawdd archwilio yn cyd-fynd â Safon Ryngwladol y Cyngor Adrodd Ariannol (FRC) ar Reoli Ansawdd 1 (yn dod i rym ar 15 Rhagfyr 2022).

Rydym wedi sefydlu polisïau a gweithdrefnau i gyflawni a monitro ansawdd archwilio yn barhaus. Mae Adroddiad Ansawdd Archwilio 2024 yn nodi:

  • Ein hymrwymiad i ansawdd;
  • Y model tair llinell sicrwydd; a
  • Canlyniad ein trefniadau monitro ansawdd.

Pwy sy'n ein archwilio ni?

Er mwyn rhoi sicrwydd i drethdalwyr, rydym yn destun craffu annibynnol mewn nifer o ffyrdd.

Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru.

Bob blwyddyn, rydym yn cyflwyno amcangyfrif o incwm a chostau Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i’w cymeradwyo gan y Senedd Cymru.

Mae'r amcangyfrif diweddaraf o incwm a chostau, ynghyd ag adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol, ar gael o dan Ein Cynlluniau a Chyfrifon.