Aelodau'r Bwrdd

Elinor Gwynn

Example image

Gyda chefndir mewn gwyddoniaeth a chyfraith amgylcheddol mae gan Elinor Gwynn brofiad helaeth o weithio ym maes yr amgylchedd a thirweddau, treftadaeth a chynaliadwyedd.

Mae hi wedi gweithio mewn sawl rôl i gyrff gwahanol yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae hi hefyd wedi gweithio’n llawrydd mewn meysydd amrywiol, o ysgrifennu a chyfieithu creadigol i ddatblygu a chyngori ar geisiadau a chynlluniau grant treftadaeth.

Ar hyn o bryd mae hi’n ymchwilydd llawn-amser yn yr adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Elinor yn byw yng ngogledd-orllewin Cymru ac yn mwynhau mynydda, chwaraeon dŵr, celf a byd llyfrau.