Yr hyn a ddywedoch chi wrthym am #EichTref

Yr hyn a ddywedoch chi wrthym am #EichTref
22 Gorffennaf 2021
Canol y dref

Rydym wedi amlinellu rhai themâu allweddol o'ch ymatebion i'n harolwg yn gynharach eleni

Rydym wedi cael ein syfrdanu gan eich ymateb i'n harolwg yn gynharach eleni, gydag ychydig dros 2400 o ymatebion gan ddinasyddion a busnesau – diolch i chi i gyd am gymryd rhan!

Isod, rydym wedi dwyn ynghyd rhai o’r themâu allweddol o'ch ymatebion.

Rydym hefyd wedi cynnwys ambell i gwestiwn – os hoffech gyflwyno unrhyw ymatebion i rai neu bob un o'r cwestiynau, rydym wedi rhoi ein cyfeiriad e-bost ar ddiwedd y blog hwn er mwyn i chi gysylltu â ni.

Gan fod mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus mewn sawl rhan o Gymru yn wael, mae ceir wedi dod yn hanfodol i gyrraedd eich amwynderau lleol a chanol trefi.

Mae'r RAC yn amcangyfrif bod 2.5 miliwn o gerbydau ar ffyrdd Prydain yn 1952. Erbyn mis Rhagfyr 2020 roedd hyn wedi cynyddu i 38.6 miliwn o gerbydau trwyddedig. 

O ystyried hyn, nid yw'n syndod bod y rhan fwyaf ohonoch (73%) yn mynd i ganol eich tref yn rheolaidd mewn car gyda chanran llawer llai (20%) yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel dull amgen.

Nododd rhai o'ch pryderon: mai cyfyngedig yw argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus a bod mynediad i barcio ceir a chost parcio yn rhwystrau allweddol i ymweld â chanol eich tref yn amlach. Mae parcio am ddim mewn parciau manwerthu ar y tu allan i'r dref wedi dod yn fygythiad i nifer yr ymwelwyr yng nghanol trefi.

Credwn fod cyfle i ailgydbwyso codi tâl am barcio ceir er mwyn creu cae chwarae mwy gwastad i ganol ein trefi. Ydych chi'n cytuno? 

  • A oedd unrhyw gyfnodau o barcio am ddim (yn ystod y pandemig) yn gymhelliant i chi ymweld â chanol eich tref yn amlach?
  • Pe bai parciau manwerthu y tu allan i'r dref yn dechrau codi tâl gorfodol am barcio ceir, a oedd yn hafal i gostau canol eich tref, a fyddai hyn yn effeithio ar eich penderfyniad i ymweld â'r parc manwerthu, canol y dref neu'r ddau?

Mae siopa ar-lein a manwerthu y tu allan i'r dref wedi dileu masnach o lawer o ganol trefi traddodiadol. Mae cyfleoedd i gynghorau ac eraill wneud gwahanol bethau a phethau'n wahanol gyda safleoedd gwag.

Ers 2014, mae ychydig o dan £900m wedi cael ei ariannu a'i alluogi'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adfywio canol trefi. Er gwaethaf hyn, mae 1 o bob 7 siop yn wag ar y stryd fawr yng Nghymru a chaeodd dros 400 o siopau cadwyn cenedlaethol ar ein strydoedd mawr yn 2020.

O ddarllen eich sylwadau, rydym yn cydnabod bod cyfle i archwilio'r potensial i newid y defnydd o adeiladau gwag – gan greu mwy o ddefnydd hamdden a chymunedol. Drwy wneud hynny, gallai hyn annog pobl i ymweld â chanol trefi drwy gynnig gwasanaethau a gweithgareddau sy'n gynaliadwy ac yn hygyrch i bob oedran.

Mae Prifysgol Abertawe wedi sefydlu arddangosfa am ddim yng nghanol dinas Abertawe mewn uned sydd wedi dod yn wag yn ddiweddar. Mae'r arddangosfa, Oriel Science, yn arddangos peth o'r ymchwil gwyddoniaeth bywyd go iawn sy'n digwydd yn y Brifysgol ac yn cynnig gweithdai a sgyrsiau. Mae hyn wedi ail-bwrpasu gofod manwerthu blaenorol wrth estyn allan i'r gymuned leol ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr ac arloeswyr lleol.

Hoffem glywed eich barn ar y canlynol...

  • A ddylai awdurdodau lleol annog defnydd amgen o siopau gwag?
  • Os oes gormod o unedau sydd wedi mynd a’i ben iddo neu’n wag, a ddylid dymchwel y rhain i greu mwy o fannau cyhoeddus awyr agored?

Bu gostyngiad cyflym mewn 'gwasanaethau hanfodol' fel banciau, swyddfeydd post, swyddfeydd cyngor a swyddfeydd cyrff cyhoeddus eraill dros y blynyddoedd, er nad yw eich galw amdanynt wedi gostwng.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu gostyngiad amlwg mewn gwasanaethau hanfodol yng nghanol trefi ledled Cymru. Rhwng 2012 a 2020, gostyngodd canghennau banc a chymdeithasau adeiladu yng Nghymru 28.8% a gostyngodd nifer yr ATM 18% yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae swyddfeydd post wedi gostwng ychydig, 3.9% yn ystod y degawd diwethaf.

Nododd ein harolwg mai'r tri phrif reswm yr ymwelsoch â chanol eich tref cyn y pandemig oedd: siopa (yn enwedig bwyd), cymdeithasu a chael mynediad at wasanaethau lleol allweddol fel y cyngor, gwasanaethau iechyd neu fanc. 

O ystyried hyn, dywedodd y rhan fwyaf ohonoch nad ydych yn credu bod canol eich tref yn darparu'r holl wasanaethau lleol allweddol sydd eu hangen arnoch.

  • Beth yw'r gwasanaethau hanfodol sydd ei hangen ar bob canol tref?
  • Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf a fyddech yn defnyddio gwasanaethau ar-lein, pe baent ar gael, yn hytrach nag ymweld â chanol eich tref?

Mae'n bosibl creu trefi ffyniannus, ond mae angen arweinyddiaeth uchelgeisiol arno a phawb yn cydweithio. 

Canfu ein harolygon eich bod y rhan fwyaf helaeth ohonoch yn teimlo nad oes gan yr arweinwyr lleol gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer canol eich trefi, a dim ond chwarter ohonoch oedd yn hyderus ar gyfer dyfodol canol eich trefi.

Gall pethau newid er gwell. Yn y gweminar adfywio canol trefi a gynhaliwyd ym mis Mai, clywsom rai dulliau ysbrydoledig ac amgen o adfywio'n llwyddiannus, gan gynnwys:

  • Treorci: Tref fach yn y Cymoedd yn brwydro yn erbyn y llanw, i fod y stryd fawr orau yn y DU (cyflwynwyd gan Ardal Gwella Busnes Treorci).
  • Y Drenewydd a Llanllwchairan: Troi gwendid yn gryfder, ar ôl hefyd cyflwyno Cynllun Lle i Gyngor Powys sydd ymhell ar y ffordd i ddod yn Ganllawiau Cynllunio Atodol (cyflwynwyd gan Gyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchairan).
  • Blaenau Ffestiniog: Gan weu’r economi sylfaenol a chylchol ynghyd â dyheadau'r gymuned leol (cyflwynwyd gan Gwmni Bro Ffestiniog).
  • Bethesda: Cynghorau Cymuned yn dod ynghyd i adfywio eu hardal leol mewn ffordd mor gynaliadwy â phosibl (cyflwynwyd gan Partneriaeth Ogwen).
  • Yr Wyddgrug: Cynllun talebau lleol llwyddiannus sy'n gwneud y mwyaf o'r arian sy'n cael ei wario'n lleol er budd y dref (cyflwynwyd gan Yr Wyddgrug yn Llwyr).
  • Aberteifi: Tref ffyniannus o siopau annibynnol, gan ddefnyddio data'n ddeallus i wella eu cynnig (cyflwynwyd gan Gyngor Tref Aberteifi).

Ym mhob un o'r lleoedd hyn mae adfywio wedi'i arwain gan bobl a busnesau lleol a gefnogir gan eu cynghorau a Llywodraeth Cymru. 

Dywedwch wrthym sut mae rhaglenni adfywio yng nghanol eich trefi yn gweithio...

  • A oes unrhyw beth sy'n eich atal rhag cymryd rhan yn adfywiad canol eich tref?
  • Beth allai cynghorau ei wneud i'ch cael chi i gymryd rhan?
  • Sut hoffech chi gymryd rhan?

Mae angen i gynghorau ddefnyddio eu holl bwerau i helpu adfywio canol trefi.

Tynnwyd sylw'n aml at adeiladau dolurus a diffaith yng nghanol trefi yn eich ymatebion i'r arolwg fel problemau mawr ar y stryd fawr. Mae llawer o ffyrdd y gall cynghorau fynd i'r afael â'r rhain, megis Gorchmynion Prynu Gorfodol, ond maent yn aml yn ddrud ac yn gallu cymryd amser hir.

Yn ystod y gweminar ym mis Mai, clywsom gan Gyngor Bwrdeistref Stockton-on-Tees a rannodd eu dyhead i "gysylltu'r stryd fawr â'r afon ar gyfer hamdden". Mae hyn yn golygu dymchwel canolfan siopa i greu man gwyrdd, agored i gynnal digwyddiadau a lleoedd i bobl ifanc. Maent hefyd yn bwriadu adleoli pencadlys y Cyngor ger y canol tref/glan yr afon newydd.

Dywedwch wrthym sut y dylai cynghorau fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu eich tref.

  • A oes lle i leihau maint canol trefi a newid y cydbwysedd rhwng adeiladau a mannau gwyrdd/agored?
  • A ddylai cynghorau ail-ystyried maint y ganolfan fanwerthu a dod â phopeth ynghyd i un ardal lai?
  • Hoffech chi weld mwy o ddefnydd amgen o ofodau yng nghanol eich tref, er enghraifft ar gyfer hamdden, diwylliant a chelfyddydau yn ogystal ag ar gyfer manwerthu?

Mae Covid-19 wedi bod yn her i fusnesau, ond mae sawl rydym wedi siarad â nhw hefyd wedi ei ddefnyddio fel cyfle i newid a thyfu eu busnes. 

Clywsom fod 90% o'ch busnesau wedi gwneud cais am gyllid brys gan Lywodraeth Cymru a'i dderbyn i'ch helpu i oroesi effaith lawn y pandemig. Mewn ymateb i hyn, mae'r rhan fwyaf o fusnesau wedi arallgyfeirio eu cynnig i sicrhau y gallant barhau i weithredu drwy ddarparu gwasanaeth ar-lein (74%); cynnig gwasanaethau cludo neu gasglu (35%); cyflwyno gwasanaethau symudol gan gynnwys ‘pop ups’ (21%); a throsi safleoedd at ddefnydd neu fasnach amgen (12%).

Fodd bynnag, mae COVID-19 wedi newid pa mor aml y mae pobl yn ymweld ac yn defnyddio canol eu trefi, gyda 91% yn dweud eu bod yn ymweld yn llai aml nag yn y gorffennol. Mae hyn yn codi heriau i’r dyfodol.

  • Yn y dyfodol, a fyddai'n well gennych ymweld â siopau yng nghanol trefi, neu a ydych yn bwriadu gwneud mwy o siopa ar-lein?
  • A ydych yn bwriadu ymweld â chanol trefi fwy, llai neu'r un faint yn y dyfodol?
  • Beth fyddai'n eich annog i fynd i ganol eich tref?

Cysylltwch â ni

A oes gennych rai atebion i rai o'n cwestiynau uchod? Anfonwch e-bost atom, byddwn wrth ein boddau cael clywed mwy – Astudiaethau.Cyngor@archwilio.cymru

Bydd cyfle i barhau â'r sgwrs #EichTref mewn gweminar fyw ar 2 Medi 2021.  Yn y gweminar byddwn yn ystyried, adnabod a thrafod ymchwil ar adfywio trefi Cymru. 

Cofrestrwch eich diddordeb ar ein gwefan – gobeithio y gwelwn ni chi yno!