Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Sut y byddwn yn cefnogi Cymru i ymateb i'r her newid yn yr hinsawdd

08 Gorffennaf 2021
  • Newid yn yr hinsawdd yw un o heriau diffiniol y byd ac mae angen i bawb weithredu arno ar unwaith, gan gynnwys Archwilio Cymru.

    Felly, heddiw rwy'n ymrwymo i ddefnyddio ein sefyllfa unigryw a breintiedig yn Archwilio Cymru i graffu ar gamau gweithredu newid yn yr hinsawdd a'u hysbrydoli ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

    Mae'r argyfwng hinsawdd ar frig yr agenda wleidyddol fyd-eang ac mae Llywodraeth Cymru wedi addo ymgorffori'r ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wna.

    Mae wedi gosod rhai targedau uchelgeisiol, yn arbennig ymrwymiad i allyriadau di-garbon net i Gymru erbyn 2050.

    Yn fwyaf heriol efallai yw'r targedau ar gyfer 2030 - sy'n anelu at ostyngiad cyffredinol o 63% mewn allyriadau a sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn y dyddiad hwnnw. 

    Yn Archwilio Cymru Cymru, rwyf am i ni ddefnyddio ein gwybodaeth a'n harbenigedd i:

    • Esbonio sut mae'r sector cyhoeddus yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd;
    • Sicrhau pobl Cymru bod cyrff cyhoeddus yn gwneud digon i fynd i'r afael â'r her ddiffiniol hon; a  
    • Ysbrydoli newid cadarnhaol drwy godi proffil yr argyfwng hinsawdd a thrwy rannu enghreifftiau o arfer da. 
    ,
    Yr ydym eisoes wedi dechrau rhywfaint o waith archwilio ar newid yn yr hinsawdd mewn nifer fach o gyrff cyhoeddus. Byddwn nawr yn ehangu ac yn cyflymu'r gwaith hwn. Rydym yn cynnal adolygiad sylfaenol o'r holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru i archwilio eu trefniadau ar gyfer lleihau allyriadau carbon.
    ,

    Bydd hyn yn gosod y cefndir ar gyfer gwaith pellach ar leihau allyriadau carbon ac addasu i hinsawdd sydd eisoes yn newid.

    Wrth i'n gwaith archwilio ar newid yn yr hinsawdd ddatblygu, byddwn yn parhau i gyhoeddi a hyrwyddo ein canfyddiadau, ymgorffori'r gwaith hwn ym mhob un a wnawn a dod â phobl at ei gilydd i rannu arfer da a chefnogi datblygiad syniadau a dulliau gweithredu newydd.

    Gwn o'n hymdrechion ein hunain i leihau allyriadau carbon yn Archwilio Cymru nad oes dim o hyn yn hawdd i gyrff cyhoeddus. Ond ni allwn anwybyddu'r her hon. Os na weithredwn yn awr, bydd effeithiau gwirioneddol iawn yng nghymunedau Cymru, gydag arbenigwyr yn rhagweld cynnydd mewn tywydd eithafol yn arwain at dirlithriadau yn y cymoedd, a llifogydd yn ein trefi a'n dinasoedd arfordirol. 

    Er mwyn i Gymru gyflawni ei hymrwymiadau hinsawdd brys, rhaid inni ddod at ein gilydd fel un. Dyna pam y bydd Archwilio Cymru yn parhau i daflu goleuni ar newid yn yr hinsawdd, cyhyd ag y bydd yn ei gymryd. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae.

    ,

    Am yr awdur

    DSC_6056

    Daeth Adrian Crompton yn Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2018.

    Fel pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, bydd yn goruchwylio gwaith archwilio oddeutu £20 biliwn o arian trethdalwyr ac fe’i penodwyd am dymor o wyth mlynedd.