• Prentisiaeth Gwyddor Data
    £24,723- £30,274 (band cyflog DSA)
    Mae'r cyflog wrth apwyntiad o leiaf yr ystod
    Caerdydd

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Rôl Prentis - 36 mis

Mwy am y swydd

Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Prentis Gwyddor Data.

A oes gennych ddiddordeb mewn data a dadansoddeg? A wy rhifau a'r straeon y maent yn eu hadrodd yn eich cyffroi? A ydych yn hoffi posau a datrys problemau? A ydych erioed wedi eisiau dysgu sut i godio?

Mae'r dyfodol yn fyd sy'n cael ei yrru gan ddata a bydd y gallu i ddadansoddi a defnyddio data yn sgil allweddol. Felly, os yw dadansoddeg data yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, yna efallai mai Prentisiaeth Gwyddor Data yn Archwilio Cymru yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano.

Ac nid dim ond cyfle i rywun ddechrau ym myd gwaith yw hwn. Efallai eich bod yn chwilio am newid gyrfa. Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran oedran. Mae'r brentisiaeth yn rhaglen tair blynedd wedi'i hariannu'n llawn sy'n eich ategu i ennill gradd mewn gwyddor data tra'n datblygu profiad gwerthfawr yn y swydd.

Rydym yn chwilio am berson uchel eu cymhelliant i fod yn rhan o'n tîm Dadansoddi Data egnïol a gwydn. Nid oes angen profiad arnoch, dim ond dawn, ymrwymiad a brwdfrydedd. Yn gyfnewid byddwch yn derbyn rhaglen waith amrywiol a diwrnodau wedi’u rhyddhau i astudio gradd mewn gwyddor data ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae ein hymddygiad GWYCH wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn chwilio am rywun a all wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus drwy eu sgiliau data.   

Pwy yw Archwilio Cymru

Archwilio Cymru yw'r corff archwilio sector cyhoeddus annibynnol yng Nghymru. Mae gennym sefyllfa unigryw yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, lle ein swyddogaeth yw:

  • Sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda drwy ein harchwiliad blynyddol o gyfrifon y sector cyhoeddus.
  • Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl drwy ein hastudiaethau Gwerth am Arian.
  • Ysbrydoli a grymuso'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw i wella'n barhaus drwy rannu mentrau ac arfer gorau.

Gweithio i ni

Mae Archwilio Cymru yn lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant anhygoel o ategol. Rydym yn frwdfrydig am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.

Rydym yn hyblyg – yn gweithio'n glyfrach;  yn darparu dewisiadau o ran sut, pryd a lle mae unigolion a thimau yn cyflawni eu gwaith – rydym yn ymddiried ynoch chi wrth wneud y dewis cywir i gyflawni'r dasg sydd o dan sylw wrth eich ategu yn eich amgylchiadau unigol, boed hynny'n gyfrifoldebau gofalu neu'n rheoli anableddau.

Mae gennym delerau rhagorol - Rydym wir yn poeni am ein pobl ac am ddarparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith drwy ein hwythnos waith 35 awr, a'n 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (ac eithrio gwyliau banc cyhoeddus).  Gallwch hefyd brynu, gwerthu, a rhoi gwyliau yn y 'banc' i alluogi gwyliau estynedig.

Rydyn ni'n buddsoddi yn ein pobl - Rydyn ni'n eiriolwyr dros ddatblygiad personol a phroffesiynol ac yn buddsoddi yn ein pobl i gyflawni eu dyheadau gyrfa i fod y gorau y gallant fod. Rydym yn cynnig pecyn hyfforddi hael sy'n cael ei ategu gan ddull cyfunol o ddysgu strwythuredig ac anffurfiol.  O'n cynllun mentora ac hyfforddi llwyddiannus i'n trwyddedau Dysgu LinkedIn rydym yn rhoi cyfle i staff ddysgu ar adegau ac mewn ffyrdd sy'n addas iddyn nhw.

Mae gennym fuddion rhagorol - Ochr yn ochr â'n pecyn cyflog hael, rydym yn cynnig cyfle i bob cyflogai ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a ystyrir yn un sydd ag un o’r cyfraddau cyfraniadau gorau gan gyflogwr.  Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.

Rydym yn Falch o gael ein Hachredu - Rydym yn gyflogwr ‘Working Families and Change’ a ‘Change 100’ balch ac rydym wedi ennill achrediad Cyflog Byw.

Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu y byddwn yn cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

Mae’r tîm Dadansoddi Data yn gyfrifol am wella pob agwedd o'r ffordd mae Archwilio Cymru yn defnyddio data. Yn eich swydd byddwch yn ymuno â thîm heini sydd â chysylltiadau agos â phob rhan o'r busnes. O ddydd i ddydd, byddwch yn cymryd rhan mewn cyflawni'r swyddogaethau craidd hyn:

  1. Arwain ymchwil a datblygu i dechnegau ac offer data arloesol.
  2. Adeiladu offer data sydd ag effaith a'u gwreiddio fel rhan arferol newydd o'n gwaith.
  3. Sbarduno moderneiddio archwiliad ariannol a pherfformiad drwy ei wneud yn fedrus o ran data.
  4. Rheoli setiau data allweddol yn ganolog i sicrhau bod data safonol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau.
  5. Gweithio ochr yn ochr â thimau archwilio a chorfforaethol i'w galluogi i adeiladu offer/cynhyrchion data 'cod isel'.
  6. Sgrinio’r holl gynhyrchion data cyn eu cyhoeddi fel cam rheoli ansawdd ychwanegol.
  7. Hyrwyddo llythrennedd data ar gyfer yr holl staff, er mwyn gwella'r diwylliant data yn Archwilio Cymru.

Canfuwch fwy

Gallwch ganfod mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd yn y swydd ddisgrifiad. I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Steve Lisle ar 07791 007147 neu Helen Goddard ar 02920 320642.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar Dydd Sul Ebrill 7, 2024. Sylwer: ceir proses ddethol dau gam ar gyfer y swydd hon. Yn dilyn rhagdybiaeth o'ch cais ar-lein caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gymryd rhan mewn asesiad sy'n cynnwys cyfweliad ac ymarfer technegol. Caiff yr holl asesiadau a chyfweliadau eu cynnal yn bersonol yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd.

Wrth wneud cais ar-lein cofiwch bwyso'r botwm parhau ar ôl cyflwyno'ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn fe gewch gydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth, cysylltwch â'n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwyAdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru

Sylwer: nid ydym yn gallu noddi fisas gwaith.

Dyddiad Cau

  • 07/04/2024
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy