Cyfarwyddwyr

Derwyn Owen

Example image

Mae Derwyn wedi gweithio i Archwilio Cymru a’i chyrff rhagflaenol, y Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Gwasanaeth Archwilio Dosbarth, ers 1997.

Mae Derwyn yn Gyfarwyddwr Archwilio Ariannol ac mae ei bortffolio yn cynnwys amrywiaeth eang o archwiliadau ar hyd a lled Cymru gan gynnwys mewn llywodraeth leol, cyrff y GIG a llywodraeth ganolog. Mae hefyd yn arwain ar ein gwaith archwilio o ran archwiliadau Deddf Cwmnïau ac yn Gyfarwyddwr sy'n gyfrifol am oruchwylio’n gwaith archwilio Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg. Mae Derwyn wedi bod yn aelod o ACCA ers 2000.

Cafodd Derwyn ei eni a’i fagu ar gyrion Aberystwyth ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Penweddig. Ym 1997 fe enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Cyfalaf a Chyfrifyddu o Brifysgol Cymru Aberystwyth, cyn symud i Gaerdydd yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Mae Derwyn yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Tu allan i’r gwaith mae Derwyn yn gefnogwr chwaraeon brwd ac mae’n mwynhau rhedeg yn arbennig. Mae wedi cwblhau sawl marathon gan gynnwys Efrog Newydd, Boston, Berlin a Llundain.