Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Arolwg #EichTrefEichDyfodol

  • Llun o fap
  • Mae Archwilio Cymru yn edrych ar ddyfodol trefi Cymru a hoffem glywed eich barn.

    Mae canol trefi wedi bod wrth galon cymunedau Cymru ers dros 150 o flynyddoedd yn darparu gwasanaethau hanfodol ond hefyd yn rhoi ymdeimlad o berthyn i bobl. Mae gan rai o'n trefi ganol ffyniannus tra bod eraill wedi bod yn dirywio ers degawdau. Mae twf siopa ar-lein a siopau y tu allan i'r dref wedi effeithio'n sylweddol ar ganol trefi yn ddiweddar.

    Mae COVID-19 wedi cyflwyno heriau newydd i fusnesau, manwerthwyr, cyrff cyhoeddus, aelodau etholedig a swyddogion cyngor ledled y wlad ac wedi creu ansicrwydd i bob un ohonom.

    Gwyddom, er mwyn adfywio canol ein trefi'n llwyddiannus a sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, rhaid i fusnesau a gwasanaethau ffynnu. Er mwyn helpu Archwilio Cymru i ddarganfod sut beth yw hi ar lawr gwlad, mae angen i aelodau o'r cyhoedd a busnesau rannu eu barn a’u profiadau ar:

    • beth sy'n gwneud eich tref leol yn lle gwych i ymweld ag ef a siopa ynddi;
    • pa newidiadau yr hoffech eu gweld yn digwydd yn eich tref leol; a
    • pha gamau y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer y dyfodol.

    Dim ond 5 -10 munud y dylai'r arolwg ei gymryd, ac mae eich ymatebion yn gwbl ddienw.

    Bydd eich barn yn ddefnyddiol wrth nodi materion penodol y gellir eu harchwilio ymhellach yn ein hadolygiad ac a grynhoir mewn adroddiad cenedlaethol.

    Ni fyddwn yn eich enwi'n uniongyrchol a bydd eich ymatebion yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol.

    Gellir gweld copi o'n hysbysiad prosesu teg yma [agorir mewn ffenestr newydd].

    Lawrlwythwch ein taflen ar ein hastudiaeth i gael rhagor o wybodaeth [agorir mewn ffenestr newydd]. Mae'r daflen yn esbonio'r hyn rydym yn ei wneud a pham yr ydym yn ei wneud. Mae hefyd ar gael fel dogfen testun plaen [agorir mewn ffenestr newydd].

    Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy e-bostio Astudiaethau.Cyngor@archwilio.cymru

    #EichTrefEichDyfodol