Ein hymateb i COVID-19 – diweddariad gan yr Archwilydd Cyffredinol

05 Tachwedd 2020
  • Hoffwn dalu teyrnged i’r holl weision cyhoeddus sy’n gweithio mor galed i ddod â’n gwlad drwy’r argyfwng hwn. Fel y sefydliad sy’n gyfrifol am graffu ar gynifer o’r cyrff cyhoeddus hyn, mae gennym ddealltwriaeth freintiedig o ba mor hanfodol ydynt i fywydau pawb, bob dydd - a hyd yn oed yn fwy felly ar adeg fel hon. Fel Archwilydd Cyffredinol, ar ran pawb yn Archwilio Cymru, ac yn syml fel aelod o’r cyhoedd - diolch i chi.

    Y mis diwethaf, fe dynnodd Archwilio Cymru yn ôl o holl waith archwilio ar safle, wrth i’r gwasanaeth cyhoeddus ganolbwyntio ar y pandemig. Rydym wedi parhau i wneud cynnydd ar weithgarwch arall drwy weithio ac ymgysylltu â chi o bell gan roi blaenoriaeth i ddiogelwch a lles ein cydweithwyr. Wrth i gyfyngiadau barhau, rwyf yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau na fydd ein gwaith archwilio’n cael effaith niweidiol ar ymdrechion cyrff cyhoeddus, sydd dan bwysau mawr i ddelio â’r argyfwng cenedlaethol. Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu fy mod eisiau inni fod yn gwbl oddefol. Mae gan waith archwilio cyhoeddus, sydd wedi ei dargedu a’i gyflawni’n dda, ran hanfodol i’w chwarae ar hyn o bryd o ran sicrhau gwerth am arian, llywodraethu da ac atebolrwydd.

    Mae eisoes yn amlwg i’m timau archwilio bod pobl a sefydliadau ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn datblygu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio mewn ymateb i COVID-19. Mae’r argyfwng yn gorfodi pawb ohonom i arloesi a mynd i’r afael â materion hirsefydlog ar frys. Yn ddiamau, fe ddaw cyfleoedd a risgiau hefyd i’r amlwg yn ystod y cyfnod hwn a all, os gweithredir arnynt yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, gynhyrchu manteision mewn amser real a helpu i liniaru risgiau eraill.

    Mae gan Archwilio Cymru'r gallu a’r capasiti i wneud hynny. Yn benodol, bwriadaf ymgymryd â gwaith sy’n dal ac yn rhannu dysgu a phrofiad mewn amser real ar draws y cyrff a archwilir gennym. Bydd hyn yn golygu bod ein staff yn casglu arferion newydd ac arferion eraill wrth iddynt ddod i’r amlwg ac yn eu dadansoddi’n gyflym er mwyn tynnu allan bwyntiau dysgu perthnasol. Bydd yr hyn y byddwn yn ei ganfod a’i ddeall o ganlyniad i hyn yn cael ei rannu’n gyflym gyda’n cysylltiadau allweddol ar draws gwasanaeth cyhoeddus Cymru.

    Rwyf yn boenus ymwybodol y bydd angen inni gynnal unrhyw weithgaredd mewn modd nad yw’n llesteirio’r gwaith pwysig iawn sy’n digwydd ledled Cymru, ac mewn ffordd a all ychwanegu gwerth sylweddol drwy roi gwybodaeth ar gyfer y gwaith hwnnw. Fy mwriad felly yw gweithio’n agos gyda chyrff a archwilir i’w cynorthwyo i wella eu hymatebion esblygol i COVID-19, wrth gadw fy ngwrthrychedd a’m hannibyniaeth fel Archwilydd Cyffredinol.

    Yn amlwg mae llawer o’r gwaith archwilio perfformiad yr oedd fy swyddfa wedi bwriadu ei gynnal dros y flwyddyn nesaf angen cael ei ail-lunio neu ei ohirio ac mae blaenoriaethau newydd yn ymddangos. Er enghraifft, rwyf yn olrhain llifoedd cyllid amrywiol COVID-19 oddi wrth Lywodraethau’r DU a Chymru ac yn ystyried beth yw’r ffordd orau imi sicrhau pobl Cymru bod yr arian hwnnw’n cael ei reoli’n dda a bod y defnydd o arian cyhoeddus yn cael ei lywodraethu’n briodol a bod yna atebolrwydd. Gan edrych ychydig ymhellach ymlaen, rhagwelaf y byddwn yn canolbwyntio ar yr hyn y mae effaith yr argyfwng presennol yn ei olygu o ran cadernid a ffurf gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol.

    Fel ag erioed, ein her yw taro’r cydbwysedd cywir - y lefel mwyaf addas o adrodd yn seiliedig ar dystiolaeth, wedi’i gyflwyno ar yr amser mwyaf priodol. Rhaid i ni beidio fod yn rhwystr i weithwyr cyhoeddus sy’n gweithio’n ddiwyd i achub bywydau, ond rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn adrodd mewn modd sy’n ddigon cryf er mwyn cefnogi atebolrwydd ar gyfer arian cyhoeddus.

    Wrth gloi, hoffwn dalu teyrnged unwaith eto i’m cydweithwyr ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru a’r gwaith aruthrol y maent yn ei wneud dros bobl Cymru. Dwi’n gaddo y bydd pawb yn Archwilio Cymru yn gwneud beth bynnag y gallwn i helpu’n gwasanaethau cyhoeddus wrth ddod trwy’r argyfwng ac adfer mor gyflym â phosib.

    Am yr awdur

    DSC_6056Daeth Adrian Crompton yn Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2018. Fel pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, bydd yn goruchwylio gwaith archwilio oddeutu £20 biliwn o arian trethdalwyr ac fe’i penodwyd am dymor o wyth mlynedd.