Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Pam dewis gyrfa mewn cyfrifyddiaeth / archwilio?

05 Hydref 2023
  • Georgina Taylor, hyfforddai graddedig, sy’n dweud wrthym pam y dewisodd hi yrfa ym maes archwilio

    Mae'n hawdd ystyried pam y gall bod yn archwilydd fod yn bwysig yn y gymdeithas ehangach. Y gwaith ystyrlon y mae Archwilio Cymru yn ei wneud i bobl Cymru wrth ddwyn awdurdodau’r sector cyhoeddus i gyfrif a diogelu gwariant cyhoeddus er enghraifft. Er gwaethaf yr agwedd wir a gwerth chweil hon ar archwilio, byddwn yn dadlau bod gan y rhan fwyaf o bobl, yn enwedig graddedigion diweddar sy'n ystyried pa yrfa i gychwyn arni, ychydig o flaenoriaethau eraill i'w hystyried. Yn ffodus iddyn nhw (a minnau!) mae yna lawer o resymau eraill dros ddewis cyfrifyddiaeth neu'n fwy penodol, archwilio.

    Yr un clasurol; cymhwyster proffesiynol. Mae'r daith hir, sy’n aml yn heriol i gael cymhwyster yr ACA yn un yr addawyd i mi sawl gwaith ei bod yn werth y 15 arholiad y mae'n ei olygu. Mae'r ACA yn gymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n helpu i wella'r ffordd yr ydych yn gwneud penderfyniadau, rheoli amser a llawer mwy. Yn bwysicach fyth, mae'n brawf diriaethol o'ch datblygiad proffesiynol ac yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy.

    Yn fwy penodol ar gyfer archwilio, mae astudio'r cymhwyster yn Archwilio Cymru yn eich galluogi i weithio ar amrywiaeth eang o brosiectau a chael golwg gyfannol ar sefydliadau. Un diwrnod gallech fod yn edrych ar weithrediadau cyflogres corff Llywodraeth Leol a'r diwrnod wedyn yn ystyried faint o seilos sydd eu hangen ar fferm yn Aberhonddu. Mae'r ehangder hwn o ddealltwriaeth yn enwedig a chithau’n hyfforddai newydd, yn eich helpu chi i ddysgu pa feysydd o fewn sefydliad sy'n apelio atoch chi fwyaf a gallai ddylanwadu ar ffurf eich llwybr gyrfa.

    Yn yr un modd, boed yn allblyg neu'n fewnblyg, credaf fod y rhan fwyaf o bobl yn elwa ar y cyfle i weithio mewn amgylchedd tîm. Ers dechrau yn Archwilio Cymru dim ond 2 flynedd, 1 mis ac 8 diwrnod yn ôl, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda phobl anhygoel sydd wedi dysgu mwy imi nag y byddwn i erioed wedi’i ddysgu mewn ystafell ddosbarth. P'un a yw'n well gan rywun weithio gartref a manteisio ar sgyrsiau pan fo angen neu fwynhau diwrnod yn y swyddfa, credaf mai gweithio mewn tîm yw'r ffordd orau o sicrhau datblygiad cymdeithasol a phroffesiynol.

    Ynglŷn â'r awdur

    Georgina Taylor

     

     

     

     

     

     

    Mae Georgina yn Hyfforddai trydedd flwyddyn yn yr adran Archwilio Ariannol, wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Ymunodd ag Archwilio Cymru yn 2021 fel hyfforddai graddedig gyda gradd mewn Diwinyddiaeth ac Athroniaeth o Brifysgol Caergrawnt.