Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Diogelwch Adeiladau – A ydym wedi dysgu o Grenfell?

01 Awst 2023
  • Yn ddiweddar nodwyd chwe blynedd ers trychineb tŵr Grenfell.

    Yn oriau mân y bore ar 14 Mehefin 2017, rhwygodd tân trwy’r tŵr o fflatiau 24 llawr yng ngorllewin Lloegr ar ôl i dân bach mewn cegin gychwyn ar y pedwerydd llawr. Ymledodd fflamau ar draws tu allan yr adeilad trwy gladin fflamadwy a buan iawn yr amgylchynodd y tŵr fflatiau, yng Ngogledd Kensington.

    Fel llawer ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw, eisteddais yn syfrdan o flaen y teledu yn gwylio’r trychineb yn datblygu. Fe ymatebodd Brigâd Dan Llundain i’r achos brys a bu’n brwydro yn erbyn y fflamau dwys y cymerodd dridiau i’w diffodd yn llawn. Er gwaethaf eu hymdrechion arwrol, fe gollodd 72 o bobl eu bywydau.

    Roedd yr ymchwiliad dilynol, dan gadeiryddiaeth y Fonesig Judith Hackitt, a ddechreuodd ym mis Medi 2017, yn gyfanswm o 400 diwrnod o gasglu tystiolaeth yn y tân preswyl mwyaf yn y DU ers yr Ail Ryfel Byd. Fe ddadorchuddiodd yr ymchwiliad gatalog o risgiau heb eu rheoli gan ganfod gwendidau mawr a methiant systemig yn y gyfundrefn diogelwch adeiladau.

    Gan addo sicrhau na fyddai hyn byth yn digwydd eto, fe gyflwynodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth a oedd yn ailwampio’r system diogelwch adeiladau. Eu nod oedd sicrhau bod eglurder ynghylch pwy sy’n gyfrifol am bob agwedd ar ddiogelwch adeiladau gan obeithio osgoi Grenfell arall.

    Cyfrifoldeb perchnogion adeiladau a datblygwyr yw diogelwch adeiladau yn y pen draw. I wneud hyn ni ddylent ond defnyddio deunyddiau diogel a dylent gydymffurfio â rheoliadau adeiladu a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Caiff cydymffurfiaeth ei goruchwylio gan syrfewyr adeiladu, mewn awdurdodau lleol ac yn y sector preifat, a adwaenir fel arolygwyr cymeradwy. Mae gwasanaethau tân ac achub yn allweddol i sicrhau bod cynlluniau adeiladau’n ystyried diogelwch tân cyn bod yr adeiladu’n cael eu codi hefyd.

    Yn y 6 mis diwethaf, mae Archwilio Cymru wedi bod yn adolygu sut y mae’r system newydd yn cael ei rhoi ar waith ac ym mis Awst byddwn yn adrodd ar ein gwaith i ganfod i ba raddau y mae cyrff y sector cyhoeddus mewn sefyllfa dda i gyflawni eu cyfrifoldebau newydd ac estynedig. O’n profiad ni, nid yw deddfwriaeth yn unig yn ymdrin â phroblemau nac yn codi safonau. I gyflawni newid go iawn, rhaid i bawb sydd â rôl i sicrhau diogelwch adeiladau berchnogi’r risgiau a bod yn llwyr atebol am eu gwaith.

    Felly, beth ydym wedi’i ganfod?

    Mae’n amlwg bod y trychineb wedi bod yn sbardun ar gyfer newid yn San Steffan a Bae Caerdydd. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn canolbwyntio ar ymdrin â gwendidau mawr yn y system diogelwch adeiladau a esblygodd dros y degawdau diwethaf. Mae eglurder ynghylch cyfrifoldebau, gofynion cymhwysedd newydd ar gyfer syrfewyr a safonau manylach oll yn cael eu cyflwyno i lywio perfformiad a gwelliant. Mae rhai o’r newidiadau hyn yn digwydd yn awr, ond nid yw eraill wedi cael eu cwblhau eto. Gyda’i gilydd, bydd cryfhau dyletswyddau’n ysgogi safonau uwch ac yn lliniaru risgiau, gobeithio.

    Mae hwn yn newid sydd i’w groesawu.

    Canfuom hefyd fod diogelwch adeiladau a rheoli adeiladu’n sector a wasanaethir yn dda gan weithlu ymroddgar ac angerddol. Mae’r rhai y siaradom ni gyda hwy ac y cyfwelom ni â hwy, boed mewn awdurdod lleol neu mewn gwasanaeth tân ac achub, yn ymfalchïo’n fawr yn eu gwaith ac yn ceisio gwneud eu gorau glas mewn amgylchiadau sy’n aml yn gryn her.

    Fodd bynnag, er gwaethaf hyn mae ein harchwiliad yn codi pryderon go iawn nad yw gwasanaethau allweddol sydd â chyfrifoldeb am lywio’r safonau hyn a chyflawni’r dyheadau hyn mewn sefyllfa dda i ymateb i’r her. Er enghraifft, canfuom risgiau mawr mewn perthynas â’r canlynol:

    • heriau parhaus o ran capasiti a chyllid sy’n gwanhau cydnerthedd gwasanaethau;
    • diffyg eglurder ynghylch sut y bydd agweddau allweddol ar y Ddeddf yn cael eu rhoi ar waith;
    • cyrff cyfrifol yn peidio â buddsoddi mewn cynllunio a pharatoi ar gyfer newid;
    • rheolaeth anghyson a gwael ar gyllid sy’n codi cwestiynau difrifol ynghylch gwerth am arian ac effeithlonrwydd gwasanaethau; a
    • systemau monitro a gwerthuso nad ydynt yn darparu unrhyw sicrwydd bod gwasanaethau’n gweithio’n effeithiol.

    Mae ein hadroddiad [agorir mewn ffenest Newydd] yn darparu ciplun o’r heriau sy’n wynebu Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cyflwyno argymhellion manwl i helpu i fynd i’r afael â’r risgiau a ganfuwyd gennym.

    Ac i ni, dyna sy’n allweddol.

    Nid oes ar yr un ohonom eisiau gweld y system newydd ar gyfer diogelwch adeiladau a rheoli adeiladu’n methu. Rydym ni i gyd yn ddibynnol ar ei llwyddiant i ddiogelu ein llesiant. Byddai ei rhoi ar waith yn llwyddiannus yn fodd addas i gofio dioddefwyr Grenfell hefyd a bydd yn sicrhau, gobeithio, nad yw hyn byth yn digwydd eto.

    Ynglŷn â’r awdur

    Tan yn ddiweddar roedd Nick Selwyn yn rheolwr archwilio yn Archwilio Cymru gyda chyfrifoldeb am astudiaethau cenedlaethol yr Archwilydd Cyffredinol mewn llywodraeth leol a gwaith archwilio lleol mewn Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub. Mae’n ymddeol ym mis Awst, a hwn yw ei adolygiad terfynol.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Codi pryderon nad yw’r gyfundrefn diogelwch adeiladau newydd yn cael ei blaenoriaethu ac nad oes adnoddau’n cael eu darparu ar ei chyfer

    View more
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    ‘Craciau yn y Sylfeini’ – Diogelwch Adeiladau yng Nghymru

    View more
    ,