Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Wrth i ni ddechrau casglu canfyddiadau ein gwaith archwilio ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) at ei gilydd, mae'r blog hwn yn esbonio beth yw ADY ac yn rhoi fy mhrofiad personol i fel person awtistig.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae ein timau archwilio yn ei wneud ar ddealltwriaeth cyrff cyhoeddus o ADY, darllenwch y trosolwg hwn.
Fel y'i diffinnir gan Lywodraeth Cymru, mae ADY yn ymwneud ag anghenion pobl sy'n byw gydag anawsterau dysgu neu anableddau, yn enwedig mewn perthynas ag anghenion addysgol plant a phobl ifanc. Yn 2018, cyflwynwyd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg yng Nghymru. Roedd hon yn disodli’r ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).
Trwy gydol fy amser mewn addysg brif ffrwd, cefais i ddarpariaeth AAA. Ar ôl cael diagnosis o Syndrom Asperger, neu anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD) fel y gelwir fy nghyflwr erbyn hyn, rwy'n credu y bu mi’n hynod lwcus o fod wedi cael cefnogaeth trwy gydol fy addysg. Trwy gydol fy addysg gynradd ac uwchradd, roedd gen i weithwyr cymorth yn aml. Cefais hefyd lawer o gymorth gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol pan oeddwn yn y brifysgol, gan gynnwys mentora unigol. Mae'r mathau hyn o gymorth wedi fy helpu i oresgyn gobryder, a diffyg hyder a gododd o fod mewn amgylchedd a oedd yn aml yn fy llethu.
Mae Mencap Cymru yn amcangyfrif bod tua 70,000 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Gall pobl arddangos amrywiaeth o anghenion a phrofiadau gwahanol gyda chymorth ADY. Felly, rhywbeth i'w gofio wrth ddarllen y blog hwn, yw nad yw fy mhrofiad o ADY mewn unrhyw ffordd yr un fath â phrofiad pob person anabl. Mae sawl ffactor fel y cyfnod cynnar mewn bywyd lle cefais ddiagnosis, ac adolygiadau i'r Llawlyfr Diagnostig Cyflyrau Meddwl a ail-ddosbarthodd Syndrom Asperger yn ASD, yn golygu bod fy mhrofiad o gefnogaeth wedi bod yn ddibynnol iawn ar yr amgylchiadau sy'n ymwneud â fy niagnosis a fy addysg. Hynny yw, roedd cael diagnosis yn gynnar iawn mewn bywyd yn golygu fy mod yn gallu derbyn cymorth addysgol na fyddwn efallai wedi ei dderbyn pe bawn i'n cael diagnosis yn ddiweddarach. Ymhlith ffrindiau awtistig ac aelodau o'r teulu, mae teithiau unigol i gael mynediad at gymorth a deall eu cyflyrau wedi bod yn wahanol iawn i mi. Nid wyf yn codi hyn i gyfleu barn, dim ond i dynnu sylw at y ffaith bod ADY a'i ddarpariaeth yn fater cymhleth, gyda llawer o wahanol onglau a llawer o nodweddion diffiniol.
Bydd ein hadroddiad terfynol yn canolbwyntio'n bennaf ar ddealltwriaeth cyrff cyhoeddus o gost, perfformiad a chynaliadwyedd y system ADY yng Nghymru. Yn ôl data Cyfrifiad Ysgolion Llywodraeth Cymru, ym mis Ionawr 2025, roedd 43,885 o ddisgyblion ag ADY neu AAA mewn ysgolion a gynhelir (9.5% o'r holl ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir). Mae hyn yn helpu i ddangos graddfa'r galw ar gyrff cyhoeddus sy'n gysylltiedig ag ADY, yn ogystal â thynnu sylw at bwysigrwydd y system ADY.
Roeddwn i'n awyddus i gymryd rhan yn y darn hwn o waith archwilio, yn rhannol oherwydd fy mhrofiadau fel person awtistig, ond hefyd oherwydd fy niddordeb yn nealltwriaeth sector cyhoeddus Cymru o anabledd. Mae llawer o fy ngwaith blaenorol yn ymwneud ag awtistiaeth wedi cynnwys siarad â sefydliadau o'r sector cyhoeddus a phreifat am y model cymdeithasol o anabledd – y syniad y dylai pobl gael eu galluogi, nid eu hanablu, gan eu hamgylchedd materol.
Rwyf wedi tynnu sylw yma at sut mae fy mhrofiadau personol o dderbyn cymorth yn ystod fy addysg, wedi llywio fy mywyd, ac wedi llywio pwy ydw i heddiw. Rwy'n ceisio dysgu mwy am sut mae'r system ADY yng Nghymru wedi'i sefydlu, a pha mor barod yw'r system honno i ddelio â heriau sy'n gysylltiedig â'r galw, a dealltwriaeth cymdeithas o anabledd, sy’n esblygu.
Mae Alex Swift yn aelod o'r Cyfnewidfa Arfer Da, a thimau Cyfathrebu Archwilio Cymru. Oherwydd ei ddiddordeb mewn niwroamrywiaeth ac anabledd, mae Alex ar hyn o bryd yn gweithio gyda chydweithwyr Archwilio, gan archwilio pwnc Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)