Rwyf wedi dod i’r casgliad bod cyfrifon AaGIC wedi’u paratoi’n briodol a’u bod yn berthnasol gywir ac rwyf wedi cyhoeddi barn archwilio ddiamod arnynt. Ni chanfu fy ngwaith unrhyw wendidau perthnasol yn rheolaethau mewnol AaGIC (a oedd yn berthnasol i’m harchwiliad i).
Fodd bynnag, gosodais baragraff Pwyslais ar Fater yn fy adroddiad i dynnu sylw at ddatgeliadau yn nodyn 21.1 yn y cyfrifon sy’n ymwneud ag effaith Cyfarwyddyd Gweinidogol a gyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr 2019 i Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.