Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein gwaith archwilio yn 2022 yn Awdurdod Iechyd Arbennig ( Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a wnaed i gyflawni ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Ni nododd ein gwaith unrhyw wendidau perthnasol mewn rheolaethau mewnol (a oedd yn berthnasol i'm harchwiliad); fodd bynnag, fe wnaethom ddod â dau fater i sylw swyddogion a'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd er mwyn eu gwella.