Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu ein trefniadau ansawdd archwilio a’n hymrwymiad diwyro i ddarparu a buddsoddi mewn gwasanaethau archwilio o ansawdd da.
Mae’n rhoi darlun eglur i’r cyrff a archwilir gennym, y cyhoedd yn gyffredinol a’r Pwyllgor Cyllid o’r mesurau cadarn a roddir ar waith gennym i sicrhau’r lefelau uchaf o uniondeb a rhagoriaeth.
Mae’r adroddiad yn manylu ar ganlyniadau ein gweithgareddau monitro ar gyfer sampl o archwiliadau o gyfrifon sy’n ymwneud â blwyddyn ariannol 2022-23, ynghyd â sampl o adroddiadau archwilio perfformiad a gyhoeddwyd ym mlwyddyn galendr 2023 ac yn gynnar ym mlwyddyn galendr 2024.
Rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i roi’r arferion proffesiynol gorau ar waith yn ein holl waith i sicrhau bod ein hansawdd yn dal i fod o safon uchel; bod ein gwaith yn dal i gael effaith fawr; ac, fel sefydliad, ein bod yn parhau i gynnig gwerth am arian i drethdalwyr Cymru.