Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn rhoi crynodeb o'r cynnydd a wnaethom o ran cyflawni'r rhaglenni gwaith archwilio a nodir yn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2021-22, ochr yn ochr â'n datganiadau ariannol ac atebolrwydd.
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys detholiad o astudiaethau achos i roi mwy o ddealltwriaeth ar rai o'r prosiectau yr ydym wedi bod yn ymwneud â hwy a'r cyfraniad y mae’r gwaith hwnnw wedi'i wneud.
Er bod COVID-19 yn dal i achosi rhai ymyriadau, rydym wedi gallu cyflwyno rhaglen waith lawn i safon o ansawdd uchel.