Fe wnaethom adolygu sut y pennwyd y blaenoriaethau, a pha un a yw’r trefniadau cyflawni a monitro a sefydlwyd i reoli’r portffolio adnewyddu’n effeithiol.
Ar y cyfan, canfuom fod blaenoriaethau’r Portffolio Adnewyddu Strategol wedi cael eu datblygu’n effeithiol i gyd-fynd ag uchelgeisiau tymor hwy.
Fodd bynnag, dylai diben a chynnydd y portffolio gael eu disgrifio’n fwy clir, ac mae’n bosibl bod y trefniadau llywodraethu’n anghymesur fawr o’i gymharu â graddfa’r gwaith sy’n cael ei gyflawni.