Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau cam cyntaf Asesiad Strwythuredig yr Archwilydd Cyffredinol yn 2021 ar y trefniadau cynllunio gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae ein Hasesiad Strwythuredig wedi’i fwriadu i helpu i ateb gofyniad statudol yr Archwilydd Cyffredinol i fod wedi’i argyhoeddi bod cyrff y GIG wedi gwneud trefniadau priodol i sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnyddio adnoddau dan adran 61 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2014.