Gwnaed y gwaith hwn fel rhan o'n prosiect 2021-22 Asesiad Sicrwydd ac Asesu Risg i helpu i gyflawni dyletswyddau'r Archwilydd Cyffredinol.
Mae gan y Cyngor ddealltwriaeth dda o'r dasg y mae'n ei hwynebu i gyflawni sero-net erbyn 2030, sy'n cael ei mynegi'n glir yn ei Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy, ond nid yw'r Strategaeth wedi'i chostio ac nid yw'n nodi'r cyllid sydd ei angen i gyflawni'r holl weithgarwch o fewn y Strategaeth.