Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Defnyddio gwybodaeth am berfformiad: safbwynt defnyddwyr gwasanaethau a chanlyniadau
01 Rhagfyr 2023
Gwnaethom ystyried safbwynt defnyddwyr gwasanaethau a’r wybodaeth am ganlyniadau a ddarparwyd i uwch swyddogion ac uwch aelodau (uwch arweinwyr), a sut y defnyddir yr wybodaeth hon.
Ar y cyfan, canfuom nad yw'r wybodaeth am berfformiad a ddarperir i uwch arweinwyr yn gyffredinol yn eu galluogi i ddeall safbwynt defnyddwyr gwasanaethau a chanlyniadau gweithgareddau'r Cyngor. Mae hyn yn cyfyngu ar eu gallu i ddeall effaith gwasanaethau a pholisïau’r Cyngor.