Roedd y prosiect hwn hefyd yn gymorth i ni allu asesu i ba raddau y mae’r Cyngor yn cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth gymryd camau i gyflawni ei amcanion llesiant.
Mae cyllid ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru wedi helpu i wella sefyllfa ariannol y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae angen i’r Cyngor lunio cynllun cynaliadwy i fynd i’r afael â’r pwysau ariannol sylweddol sy’n dod i’r amlwg.