Paratowyd yr adroddiad hwn er budd y cyhoedd yn unol ag Adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol er budd y cyhoedd wedi nodi diffygion sylweddol, hirsefydlog mewn trefniadau llywodraethu a goruchwylio mewn perthynas â'r ffordd yr ymdriniodd Cyngor Sir Blaenau Gwent â'i gwmni gwastraff ei hun, Silent Valley Waste Services Limited.
Nododd yr archwiliad nifer o bryderon sylweddol ynghylch digonolrwydd trefniadau'r Cyngor a chanfu fod y Cyngor wedi methu â:
- cymeradwyo trefniadau cyflog a phensiwn yn gywir mewn perthynas â swyddogion y Cyngor a benodir i Fwrdd Silent Valley;
- cydymffurfio â rheoliadau caffael mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir gan Silent Valley;
- sicrhau bod penodiadau'r Cyngor i Fwrdd Silent Valley yn cydymffurfio â chyfansoddiad y Cyngor;
- sefydlu trefniadau llywodraethu a goruchwylio priodol mewn perthynas â Silent Valley o 2012 ymlaen i sicrhau atebolrwydd am ddefnyddio adnoddau cyhoeddus;
- sefydlu trefniadau priodol i reoli gwrthdaro buddiannau posibl mewn perthynas â swyddogion y Cyngor a benodwyd i Fwrdd Silent Valley gan arwain at y swyddogion hynny'n agored i honiadau bod rhai o'u gweithredoedd wedi'u hysgogi gan hunan-les;
- sicrhau bod penderfyniadau i wneud taliadau terfynu i gyfarwyddwyr Silent Valley yn unol â'r gyfraith a dogfen lywodraethol Silent Valley; a
- sefydlu trefniadau cystadleuol a chadarn ar gyfer recriwtio Rheolwr Cyffredinol newydd Silent Valley, (uwch swyddog y Cwmni) yn 2016.