Gallai’r ffigurau fod rhwng £100 miliwn ac £1 biliwn.
Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn cydnabod bod twyll yn un o’r troseddau mwyaf cyffredin yng nghymdeithas yr oes sydd ohoni. Fodd bynnag, mae rhai uwch-arweinwyr yn y sector cyhoeddus yn amheus ynghylch y lefelau o dwyll sydd yn eu sefydliadau.
O ganlyniad, maent yn gyndyn o fuddsoddi mewn trefniadau atal twyll ac maent yn rhoi blaenoriaeth isel i’r gwaith o ymchwilio i achosion o dwyll posibl y mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn tynnu eu sylw atynt.