Canolbwyntiwyd ar drefniadau corfforaethol IGDC ar gyfer sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon, yn effeithiol, ac yn economaidd, ac yn benodol, llywodraethu; cynllunio strategol; rheoli ariannol; a rheoli'r gweithlu, asedau digidol, yr ystâd, ac asedau ffisegol eraill.
Canfuom fod IGDC yn gwreiddio trefniadau llywodraethu da, a rhaid iddo fynd ati yn awr i ddatblygu ei rôl fel partner digidol dibynadwy ymhellach i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer gwasanaethau a hwylusir gan dechnoleg ddigidol ledled Cymru.