Nod y prosiect hwn oedd dadansoddi data dosbarthu fferylliaeth gymunedol ar raddfa fawr, a rhoi dealltwriaeth i GIG Cymru o feysydd lle mae’r gost yn uchel a thwyll yn bosibl.
Roedd y gwaith hwn hefyd yn gyfle i ddatblygu arbenigedd Archwilio Cymru mewn technegau dadansoddi twyll.
Cafodd fferylliaeth gymunedol ei dewis fel canolbwynt y peilot oherwydd ei fod yn faes lle mae risg twyll yn hysbys ac mae’n ymddangos nad oes cymaint o graffu arno ar gyfer twyll â rhai gwasanaethau eraill y GIG.
Beth oedd ein canfyddiadau?
- Ni ddaeth ein gwaith o hyd i unrhyw dystiolaeth uniongyrchol o dwyll, er ein bod wedi canolbwyntio ar nifer fach o risgiau twyll.
- Mae ein gwaith wedi tynnu sylw at risg benodol o ran rheolaethau cyfyngedig ynghylch cost Archebion Arbennig. Nid oes cyfyngiadau pris ar waith ar gyfer rhai Archebion Arbennig, gan godi cyfleoedd amrywiol ar gyfer twyll neu wallau. Er ei fod yn destun amrywiol gafeatau, rydym yn amcangyfrif y gallai tua £700,000 fod wedi ei arbed yng Nghymru yn ystod cyfnod tair blynedd y prosiect peilot a gan leihau costau sy’n gysylltiedig ag Archebion Arbennig.
- Gwnaeth ein gwaith dynnu sylw byrddau iechyd at nifer o allanolynnau. O’r allanolynnau hyn, gwnaethom nodi gordaliadau gwerth cyfanswm o £22,000, sydd bellach yn cael ei adfer.
- Gwnaeth ein gwaith ganfod bod mwy o gyfle i ddadansoddi proses ddosbarthu fferylliaeth gymunedol yn genedlaethol at ddibenion canfod neu atal twyll a sicrhau gwerth am arian.
Er ein bod wedi penderfynu dod â’r peilot i ben a pheidio â datblygu’r adnodd ymhellach, rydym wedi dysgu gwersi gwerthfawr ac rydym yn chwilio am feysydd gwaith eraill ym maes dadansoddi twyll.