Shared Learning Webinar
Gwneud synnwyr o argyfwng: Dysgu o Bandemig COVID-19

Wythnos o ddysgu, arfer da a syniadau ar-lein – 8 Mawrth – 12 Mawrth 2021.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae bron i flwyddyn wedi mynd ers y cyfyngiadau symud cyntaf yn y DU.

Ers hynny, mae staff ar draws Archwilio Cymru wedi bod yn cadw cofnod o arferion newydd ac arloesol sy'n deillio o bandemig COVID-19. Casglwyd cyfoeth o ddata yn amrywio o symud gwasanaethau ar-lein i wirfoddoli yn y gymuned. Rydym wedi rhannu'r wybodaeth hon drwy flogiau, ar Twitter, mewn gweminarau ar-lein a chrynodebau bob pythefnos.

Flwyddyn yn ddiweddarach, rydym wedi penderfynu cynnal digwyddiad dysgu wythnos o hyd ar draws nifer o themâu, i rannu mewnwelediadau pellach gyda chi. Yn ystod yr wythnos, byddwn yn clywed gan wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ac yn dysgu sut y maent wedi ymateb i'r heriau amrywiol y mae COVID wedi'u cyflwyno yn ogystal ag edrych i'r dyfodol a sut y gallai'r pandemig newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu yn y dyfodol.

Byddwn yn ymdrin ag ystod o themâu yn ystod yr wythnos:

  • Rôl cymunedau yn ystod COVID-19
  • Llywodraethu Argyfwng
  • Strategaeth Ddeinamig
  • Effaith COVID-19 ar y gweithlu
  • Cyfathrebu ac ymgysylltu

Sut y bydd yn gweithio

Dros bum niwrnod, byddwn yn rhannu nifer o adnoddau gan gynnwys cyfweliadau fideo, blogiau a phodlediadau wedi'u recordio ymlaen llaw.

Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn holi ac ateb byw ar Lywodraethu, a gweminar fyw ar Strategaeth Ddeinamig, sy'n cynnwys siaradwyr fel yr:

  • Athro Dave Snowden o Cognitive Edge
  • Ian Bancroft sef Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Anne Louise Clarke sef Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu a Newid Archwilio Cymru
  • Auriol Miller sef Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Materion Cymreig

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein [agorir mewn ffenestr newydd]

Bydd cynnwys newydd yn cael ei ryddhau'n ddyddiol i wylio, gwrando a darllen ar liwt eich hun, a bydd ar gael ar adran Arfer Da ein gwefan wedi hynny.

Sut ydw i'n cofrestru fy niddordeb?

Llenwch eich manylion ar y ffurflen gofrestru sydd ar ochr dde y dudalen yma os gwelwch yn dda. Ar ddechrau'r wythnos byddwch yn derbyn e-bost yn nodi ble y gallwch ddod o hyd i'r holl gynnwys.

Gallwch hefyd gysylltu ag aelod o'r Tîm Arfer Da ar unrhyw adeg yn ystod yr wythnos a fydd yn gallu helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ar arfer.da@archwilio.cymru.

 

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events