Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Edrychwch ar ein gwaith o amgylch y pandemig COVID-19
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
I gael mwy o wybodaeth am ein prosesau, dewiswch eitem o’r rhestr ganlynol:
I gael atebion i gwestiynau cyffredin, dewiswch eitem o’r rhestr ganlynol:
Er mwyn rhoi’r un cyfle i’r holl ymgeiswyr ymgeisio, mae’n ofynnol i bawb gwblhau ffurflen gais trwy ein porth recriwtio. Gallwch atodi CV hefyd fel rhan o’ch gwybodaeth ategol, ond sicrhewch eich bod yn rhoi eich enw ar yr holl ddogfennau ategol os gwelwch yn dda.
I ofyn am gopi caled o’r ffurflen gais, cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol. Agorir mewn ffenest newydd
I’ch cynorthwyo gyda’ch proses ymgeisio rydym yn eich cynghori i ymgyfarwyddo â’r swydd-ddisgrifiad a’n ein gwerthoedd a hymgyddiadau [PDF 500KB Agorir mewn ffenest newydd].
Wrth gwblhau eich ffurflen gais nodwch sut yr ydych yn cwrdd â’r cymwyseddau a enwir trwy eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad. Mae’n hanfodol eich bod yn cyfeirio at enghreifftiau penodol, lle y bo’n briodol, gan ddefnyddio’r dull STAR. Gallwch ddarllen ein hawgrymiadau da ar gyfer dechrau ar eich cais [PDF 53KB Agorir mewn ffenest newydd] i’ch rhoi ar ben ffordd.
Mae gennym hefyd gyngor a chanllawiau yn benodol [PDF 64KB Agorir mewn ffenest newydd] ar gyfer ymgeiswyr y rhaglen graddedigion.
Wrth ddefnyddio ein porth peidiwch â defnyddio botwm Yn Ôl eich porwr i ddychwelyd at y dudalen flaenorol gan y bydd hyn yn achosi gwall ac fe allech golli eich gwaith. Defnyddiwch y botwm ar gyfer y dudalen flaenorol ar waelod pob tudalen i fynd yn ôl trwy eich cais.
Gwiriwch fod yr holl adrannau wedi’u ticio ar y dudalen grynhoi. Os yw unrhyw rai’n goch, ewch yn ôl at y dudalen honno a chwblhewch yr holl feysydd gorfodol sydd â * ar eu pwys. Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r botwm ‘Ymgeisio’ nes bod yr holl feysydd gorfodol wedi’u cwblhau.
Wedi ichi gyflwyno eich cais, fe gewch gadarnhad trwy’r e-bost.
Cofiwch na fyddwch yn gallu gwneud unrhyw newidiadau unwaith y byddwch wedi cyflwyno’r ffurflen, felly gwiriwch eich cofnodion yn ofalus cyn gwneud hynny.
Yn ôl i'r rhestr
Os cewch eich dewis ar gyfer cyfweliad/canolfan asesu, byddwn yn cysylltu â chi trwy’r e-bost i drefnu dyddiad eich cyfweliad/canolfan asesu. Byddwn hefyd yn cysylltu â chi trwy’r e-bost os bydd eich cais yn aflwyddiannus a chithau heb gyrraedd y rhestr fer.
Mae dyddiad(au) y cyfweliad/y ganolfan asesu yn cael ei gyhoeddi/eu cyhoeddi fel arfer ar dudalen manylion y swydd i’ch galluogi i wneud trefniadau os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer. Fel arfer mae 2 neu 3 o bobl ar y panel cyfweld. Mae un person yn gweithredu fel Cadeirydd a bydd ef neu hi’n rhoi amlinelliad byr o fformat y cyfweliad.
Mae pob un o aelodau’r panel fel arfer yn gofyn ambell i gwestiwn yr un ynghylch cymwyseddau; efallai y byddant yn gofyn ichi roi manylion pellach ar gyfer eich ateb os byddant yn teimlo bod hynny’n angenrheidiol. Gallwch ddarllen am ateb y cwestiynau ar gymwyseddau [PDF 51KB Agorir mewn ffenest newydd] i gael arweiniad pellach ar strwythuro eich atebion mewn cyfweliad.
Efallai y gofynnir ichi hefyd roi cyflwyniad byr a/neu sefyll profion. Byddwch yn cael eich hysbysu pa dasg(au) y bydd angen ichi ei chyflawni/eu cyflawni ar eich manylion trefnu ymgeisydd ar-lein. Ar gyfer cyflwyniadau, mae manylion y rhain yn cael eu rhoi ichi ymlaen llaw fel arfer i roi amser ichi baratoi.
Os byddwch yn rhedeg yn hwyr am unrhyw reswm, cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol cyn gynted â phosibl.
Mae’r holl geisiadau ar-lein yn cael eu cydnabod yn awtomatig. Os hoffech sicrhau bod eich cais wedi ein cyrraedd cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol.
Yn ôl i'r cwestiynau
Bydd y system yn cadw pob adran wrth ichi fynd drwy’r ffurflen gais fel eich bod yn gallu parhau o’r rhan ddiwethaf ichi ei chwblhau neu wneud newidiadau’n ddiweddarach.
Rydym yn gofyn eich caniatâd i gysylltu â’r canolwyr a dim ond unwaith y byddwn wedi cynnig rôl ichi yn ffurfiol y bydd hyn yn digwydd.
Gallwch. Cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol a byddant hwy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi.
Cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol gan roi eich enw; teitl y swydd a rhif cyfeirnod y swydd yr ydych yn dymuno tynnu’n ôl ohoni. Wedyn ni fydd eich cais yn cael ei ystyried wrth ddewis y rhestr fer, cyfweld ag ymgeiswyr a chynnig y swydd.
Nac ydych – yn anffodus nid oes adborth ar gael ar eich ffurflen gais.
Efallai y bydd ymgeiswyr yn gallu newid dyddiad/amser eu cyfweliad/canolfan asesu a dylent fewngofnodi ar y porth e-recriwtio i weld a oes dewisiadau eraill. Fodd bynnag, os byddwch yn canfod nad ydych yn gallu dod ar y dyddiad a bod dim dyddiadau/amseroedd eraill ar gael, cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol. Bydd y penderfyniad i ail-drefnu cyfweliad/canolfan asesu’n cael ei wneud gan Gadeirydd y panel ac nid oes sicrwydd o hynny ar unrhyw gyfrif.
Yn y rhan fwyaf o achosion, rydym yn ceisio hysbysu ymgeiswyr y diwrnod ar ôl y cyfweliad/y ganolfan asesu, ond nid yw hyn yn bosibl bob amser. Os nad ydych wedi clywed o fewn 5 niwrnod gwaith i’ch cyfweliad/canolfan asesu, cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol i gael mwy o wybodaeth.
I gael adborth ar eich cyfweliad/ar y ganolfan asesu, cysylltwch â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol. Byddant hwy’n gallu trefnu amser cyfleus gyda Chadeirydd y panel cyfweld a fydd yn gallu eich cynorthwyo.
Gallwch gysylltu â Thîm Recriwtio’r Adran Adnoddau Dynol gan ddefnyddio’r manylion isod:
E-bost: recriwtio@archwilio.cymru
Ffôn: 029 2032 0543
Post:
Yr Adran Adnoddau Dynol
Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ