• Hysbysiad Preifatrwydd Recriwtio

Hysbysiad Preifatrwydd Recriwtio

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych sut y bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn prosesu eich gwybodaeth pan fyddwch yn gwneud cais am swydd neu'n gwneud ymholiad recriwtio. Mae hyn yn cynnwys eich ffurflen gais, gwybodaeth a gofnodwyd gennych neu amdanoch yn ystod unrhyw asesiad neu gyfweliad ac unrhyw wybodaeth sgrinio cyn cyflogi.

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn archwilio sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, ac mae Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu’r staff a’r adnoddau i’w alluogi i gyflawni ei waith. Nid yw Archwilio Cymru yn endid cyfreithiol ond yn nod masnach ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru, ac yn hunaniaeth ymbarél ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Swyddfa Archwilio Cymru yw cyflogwr y staff. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Archwilio Cymru.

Y cyfreithiau perthnasol

Byddwn yn prosesu eich data personol o dan gyfraith diogelu data, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn recriwtio cyflogeion i gyflawni ei dyletswydd gyfreithiol o dan adran 21 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) i ddarparu staff ac adnoddau i alluogi’r Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei swyddogaethau, a gyflawnir o dan ddeddfwriaeth er budd y cyhoedd.

Lle rydym yn cadw eich gwybodaeth

Mae eich manylion personol, unrhyw gais dilynol am swydd neu ddogfennau ategol a ddarperir yn cael eu cadw mewn system Adnoddau Dynol ar-lein sy’n cael ei darparu a’i chynnal gan MHR (Itrent). Gall ymgeiswyr fewngofnodi i’r system i gofnodi data a chyflwyno ceisiadau. Mae rhai manylion personol megis enw, cyfeiriad, cymwysterau sydd wedi’i fewnbynnu mewn un cais ar gael i ymgeisydd eu gweld a’u hail-ddefnyddio ar gyfer unrhyw geisiadau gyda ni yn y dyfodol.

Os ydych yn ymgysylltu ag asiantaeth recriwtio, bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu ganddynt yn unol â'u hysbysiadau preifatrwydd eu hunain. Pan fydd unrhyw asiantaeth yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i ni at ddibenion recriwtio, bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn berthnasol.

Caiff gwybodaeth o asesiadau, cyfweliadau a sgrinio cyn cyflogi eu cadw’n ddiogel yn ein system Adnoddau Dynol. Pan gynhelir asesiadau neu gyfweliadau ar-lein, gellir cadw rhywfaint o wybodaeth yn ymwneud â mynychwyr ar Microsoft Teams. Nid ydym yn recordio fideo na sain o unrhyw asesiadau na chyfweliadau.

Gwybodaeth categori arbennig (sensitif)

Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth bersonol sensitif, megis gwybodaeth am eich iechyd, neu anabledd yn y broses recriwtio, dim ond at ddibenion gwneud addasiadau rhesymol lle bo'n briodol y defnyddir hyn. Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth sensitif arall, fel eich tarddiad ethnig, cred grefyddol, cyfeiriadedd rhywiol neu nodwedd warchodedig arall yn rhan amrywiaeth y cais, defnyddir hwn i fonitro cydymffurfiaeth â deddfwriaeth cydraddoldeb. Bydd yr holl wybodaeth hon yn cael ei chadw ar wahân i’ch cais, ni chaiff ei dosbarthu i’r rhai sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau’r broses recriwtio ac ni chaiff ei defnyddio wrth asesu eich addasrwydd ar gyfer y swydd.

Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y byddwn yn datgelu eich data personol sensitif i drydydd partïon, lle mae angen neu rwymedigaeth ddilys i wneud hynny.

Diben prosesu a rhannu eich gwybodaeth

Ar wahân i'r dibenion a nodir yn yr adran gwybodaeth sensitif uchod, bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn ystod y broses recriwtio yn cael ei defnyddio at ddibenion ymdrin â'ch cais. Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei rhannu â'n tîm Adnoddau Dynol ac aelodau o'n panel dethol at ddibenion delio â'r broses recriwtio. O bryd i'w gilydd, gall y panel dethol gynnwys aelodau allanol, os felly, byddwn yn eich gwneud yn ymwybodol o hyn cyn y cyfweliad.

Os awn ymlaen i gynnig cam a'ch bod yn derbyn, bydd angen i ni rannu rhywfaint o wybodaeth am y swydd a gynigir gyda'ch canolwyr er mwyn cael tystlythyrau. Mae angen gwiriad DBS neu lefel uwch o glirio diogelwch ar rywfaint o'n rolau a/neu waith. Byddwn yn eich gwneud yn ymwybodol yn y llythyr cynnig pa wiriadau sydd eu hangen. Os felly, bydd eich data'n cael ei brosesu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a/neu Atebion Fetio Diogelwch Cenedlaethol yn unol â'u polisïau preifatrwydd sydd ar gael yn:

https://www.gov.uk/government/publications/dbs-privacy-policies a https://www.gov.uk/government/publications/national-security-vetting-privacy-notice

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ymhellach na’r dibenion a ddisgrifir uchod heb roi gwybod i chi ymlaen llaw, oni bai bod y datgeliad yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu i ddiogelu eich buddiannau hanfodol. Os bydd y gwiriadau'n llwyddiannus a bod cyflogaeth yn dechrau, bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd Cyflogeion yn berthnasol wedyn.

Cadw

Rydym yn cadw gwybodaeth amrywiaeth am bob ymgeisydd ac yn cyfweld ymgeiswyr (llwyddiannus ac aflwyddiannus) yn ein system Adnoddau Dynol ddiogel am hyd at flwyddyn ar ôl cwblhau'r broses recriwtio. Defnyddir y wybodaeth ystadegol hon at ddibenion adrodd ar gydraddoldeb. Ar gyfer ymgeiswyr aflwyddiannus, caiff gwybodaeth am amrywiaeth ei dileu'n ddiogel ar ôl blwyddyn.

Cedwir ffurflenni cais a gwybodaeth bersonol arall am ymgeiswyr aflwyddiannus am flwyddyn.

Bydd rhywfaint o wybodaeth bersonol am ymgeiswyr llwyddiannus yn cael ei throsglwyddo i gofnodion eu gweithwyr a bydd yn cael ei chadw yn unol â'n Polisi Rheoli Dogfennau a Chofnodion.

Eich Hawliau

O dan gyfraith diogelu data mae gennych hawliau i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol gyfredol a gedwir amdanoch ac i wrthwynebu prosesu data sy’n achosi difrod a gofid diwarant a sylweddol.

I gael copi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch neu i drafod unrhyw wrthwynebiadau neu bryderon, ysgrifennwch at Martin Peters, Swyddog Diogelu Data, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ, neu e-bostiwch: swyddog.gwybodaeth@archwilio.cymru Gallwch hefyd gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data yn y cyfeiriad hwn.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau o dan gyfraith diogelu data neu os hoffech gwyno am sut rydym yn ymdrin â’ch data personol, gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth ar: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF, neu drwy e-bost ar casework@ico.gsi.gov.uk neu dros y ffôn 01625 545745.

Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy  

Graduate Blogs