Prentisiaethau yn Archwilio Cymru
11 Chwefror 2021
-
Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, dathliad wythnos gyfan yn y DU dros brentisiaethau a'r gwerth y maent yn ei roi i sefydliadau, rydym wedi siarad â'n prentis Adnoddau Dynol, Shannon a'n Partner Dysgu Adnoddau Dynol, Victoria Walters am eu profiadau.
Yn y recordiad isod, mae Shannon a Victoria yn sôn am fanteision prentisiaethau, manteision amrywiaeth mewn ymgeiswyr, mentora gwrthdro, a'r cyfleoedd datblygu gyrfa sydd ar gael i brentisiaid.