Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cronfa Dyfodol yr Economi

  • Yr hyn yr ydym yn ei wneud

    Bydd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar reolaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru o Gronfa Dyfodol yr Economi, lle mae wedi bod yn darparu ystod o gymorth ariannol i fusnesau. Byddwn yn edrych ar ddull strategol Llywodraeth Cymru, ei rheolaeth ariannol, ac a yw'r Gronfa yn cyflawni'r buddion a fwriadwyd.

    Byddwn hefyd yn edrych ar sut mae Llywodraeth Cymru wedi dysgu gwersi o gynlluniau cymorth blaenorol i fusnes ac a yw / sut mae wedi mynd i'r afael â materion a godwyd yn ein hadroddiad 2018 Cymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fusnesau.

    Pam rydym yn ei wneud

    Mae Cymru yn wynebu heriau economaidd dwfn. Byddwn yn adrodd ar ba mor dda y mae Cronfa Dyfodol yr Economi yn cefnogi datblygu economaidd cynaliadwy wedi'i alinio â blaenoriaethau cenedlaethol ac yn rhoi sicrwydd a yw arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda.

    Pryd fyddwn ni'n adrodd

    Gwanwyn 2026.