Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol

Kevin Thomas

Example image

Ganed Kevin Thomas yn Bramhall ger Manceinion. Mynychodd Kevin Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn cyn mynd i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Ar ôl graddio ym 1988 gyda gradd mewn Mathemateg Bur a Chyfrifeg, gweithiodd Kevin fel cyfrifydd dan hyfforddiant i Gyngor Bwrdeistref Metropolitan Sefton am ddwy flynedd cyn symud i Gyngor Sir Clwyd. Tra'n gweithio yno cwblhaodd Kevin ei hyfforddiant gyda'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ac ef yw'r unig fyfyriwr, yn hanes y Cyngor, i lwyddo yn ei arholiad CIPFA y tro cyntaf. Mae Kevin yn aelod o gynllun Datblygiad Proffesiynol Parhaus CIPFA ers y cychwyn.

Ymunodd Kevin â'r Archwiliad Dosbarth yn 1992 a chyflawnodd nifer o rolau gyda phortffolios a oedd yn cynnwys gwaith archwilio ariannol mewn llywodraeth leol, y GIG, yr Heddlu a pharciau cenedlaethol. Hefyd cyflawnodd waith gwerth am arian ar bynciau megis rheoli'r amgylchedd ac arbedion effeithlonrwydd. 

Yn dilyn ei ddyrchafiad fel Partner Ymgysylltu, roedd Kevin yn gyfrifol am archwilio Awdurdod Unedol, tair o ymddiriedolaethau'r GIG, bwrdd iechyd lleol ac Estyn. Roedd ganddo ran bwysig hefyd ym mhrosiect Cyfnewidfa Arfer Da SAC, gan weithio ar bynciau megis 'Creu'r Cysylltiadau' a phrosiect rheoli asedau a enillodd wobr CIPFA.

Penodwyd Kevin yn Gyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol yn Swyddfa Archwilio Cymru yn 2014. Mae'n aelod o Fwrdd a Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol SAC, ac yn Gadeirydd y Tîm Arweinyddiaeth Galluogwyr Corfforaethol, y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch a'r Grŵp Llywio Cydraddoldeb, ac mae ei rôl yn cynnwys goruchwylio'r gwaith o ddatblygu strategaeth corfforaethol SAC a'i chyflawni, yn ogystal â rhedeg swyddogaethau galluogi'r sefydliad: Cynorthwyo'r Bwrdd, Gwasanaethau Busnes, Cyfathrebu, TGCh, Y Gyfraith a Moeseg, a Chynllunio ac Adrodd.  

Mae Kevin yn briod, mae ganddo ddau o blant, ac mae'n byw gyda'i deulu yng Ngogledd. Mae'n frwd am gadw'n heini ac mae wedi cyflawni nifer o rasys 10 cilomedr a hanner marathonau. Y cyflawniad a roddodd y boddhad mwyaf i Kevin oedd gorffen Marathon Llundain yn 2006 mewn llai na thair awr a hanner. Fodd bynnag, mae bellach yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser hamdden, naill ai'n beicio neu yn y gampfa. 

Mae Kevin yn hoff iawn o ffilmiau ac mae hefyd yn gasglwr cerddoriaeth brwd. Mae'n mynd i weld cerddoriaeth fyw mor aml â phosibl, yn arbennig Indigo Girls.