Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio

Ann-Marie Harkin

Example image

Ganed Ann-Marie Harkin yn Weston Super Mare a chafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd La-Retraite i ferched ym Mryste cyn mynychu Prifysgol Caerdydd i astudio Ffrangeg ac Almaeneg.

Graddiodd Ann-Marie yn 1986 â B.A. (Anrh), ac yna symudodd ymlaen at gyfrifyddiaeth, gan ymuno â'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn yr un flwyddyn fel Archwilydd Cynorthwyol. 

Cyflawnodd Ann-Marie statws CIPFA gyda'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn 1989 ar ôl gweithio yn ystod y cyfnod hwn yn archwilio'r Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghaerfaddon ac yn ddiweddarach y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd. Fel uwch a phrif archwilydd gyda'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol roedd ganddi rôl amrywiol, yn cwmpasu gwaith archwilio ariannol a pherfformiad yng Nghymru a chyda'r Cynghorau Ymchwil yn Swindon. Ymgymerodd â nifer o secondiadau hefyd, gan gynnwys un i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru i adolygu trefniadau rheoli asedau ac un arall i gwmni Cyfrifwyr Siartredig Ernst and Young lle y bu'n gysylltiedig â'r gwaith o archwilio sawl cwmni sector preifat. 

Yn 1999 daeth Ann-Marie yn Ysgrifennydd Preifat i Archwilydd Cyffredinol cyntaf Cymru (Syr John Bourn), a chymerodd ran yn y gwaith o sefydlu swyddfa Archwilydd Cyffredinol Cymru ym Mae Caerdydd a sefydlu protocolau ar gyfer gweithio gyda Phwyllgor Archwilio'r Cynulliad Cenedlaethol. Ar ôl tair blynedd yn y rôl hon ymgymerodd â rôl Rheolwr, gan reoli archwiliadau ar gyfer y Cyngor Chwaraeon, Cyngor y Celfyddydau, DVLA ac elusennau gwahanol. 

Ymunodd Ann-Marie â Swyddfa Archwilio Cymru pan gafodd ei ffurfio yn 2005. Mae hi'n Gyfarwyddwr Archwilio Ariannol ac Arweinydd Ymgysylltu ar nifer o gyfrifon gan gynnwys Heddlu De a Gogledd Cymru, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn ogystal â chynnal brîff gwaith i'n hyfforddeion Archwilio Ariannol. Yn 2016 enillodd Ann-Marie Wobr Fawreddog Merched Cymru mewn Arweinyddiaeth.

Y tu allan i Archwilio Cymru mae Ann-Marie yn mwynhau darllen a theithio, ac mae ganddi ddiddordeb penodol yn yr Eidal.

Ann-Marie Harkin - hysbysiad o gofrestru buddiannau [PDF 86KB agorir mewn ffenest newydd]