Gweminar: Gadewch i ni siarad am ddiogelwch seiber

02 Mai 2019
  • Nod y weminar ryngweithiol hon oedd rhoi’r offer a’r wybodaeth angenrheidiol i’r bwrdd a’r aelodau anweithredol er mwyn iddynt fedru sicrhau bod gan eu sefydliad y trefniadau diogelwch seiber angenrheidiol mewn grym.

    Roedd y weminar hon yn berthnasol i’r rhai sydd â phrif gyfrifoldebau llywodraethiant a sicrwydd ar lefel fwrdd i alluogi Gwasanaethau Cyhoeddus fod un cam ar y blaen o droseddwyr seiber wrth i’r ymosodiadau gynyddu.