Mae’r targedau o ran yr amseroedd aros i gael archwiliadau radioleg yn cael eu bodloni ar hyn o bryd ac mae ein gwaith wedi dangos bod gwasanaethau radioleg yn cael eu rheoli’n dda yn gyffredinol.
Fodd bynnag, mae’r cynnydd yn y galw, yr anawsterau o ran recriwtio a chadw staff, y cyfarpar sganio hen ac annigonol, ynghyd â’r gwendidau TG, yn rhoi pwysau ar wasanaethau, ac maent yn awgrymu bod angen cymryd camau clir a phendant i sicrhau bod modd i wasanaethau radioleg ymdopi â’r galw yn y dyfodol.
Gwyliwch ein ffilm fer [agorir mewn ffenest newydd]