Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o drefniadau ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru.
Fe wnaed y gwaith fel rhan o’n rhaglen statudol o waith archwilio lleol ym mhob un o’r awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae partneriaid yn gweithio’n unigol ac ar y cyd i ddarparu lleoliadau mewn cartrefi gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau agored i niwed; caiff hyn ei wneud yn anos gan brosesau cenedlaethol cymhleth, sy’n arwain at ffocws sylweddol ar gostau, sy’n achosi rhwyg ymhlith partneriaid ac sydd â’r potensial i effeithio’n andwyol ar ddefnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd.
Mae cryfhau atebolrwydd a datblygu strategaeth ranbarthol a chynllun cyflawni i gyd-fynd â hi’n cynnig y potensial i lywio newid cadarnhaol a threfniadau gwell ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, yn enwedig mewn perthynas â gofal cymhleth a mwy arbenigol.