Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae’r trefniadau presennol ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal i bobl hŷn yn methu â mynd i’r afael â rhai problemau sy’n bod ers amser maith

16 Rhagfyr 2021
  • Mae heriau penodol yn ymwneud â threfniadau cyllido sy’n rhy gymhleth ac yn achosi rhaniadau rhwng partneriaid, a system sy’n gyffredinol anodd ei dilyn. 

    Rhaid i Lywodraeth Cymru ei sicrhau ei hun fod y diwygiadau polisi arfaethedig yn ymdrin â’r materion hyn ac yn cyflawni’r nod o osod ansawdd a chanlyniadau wrth galon y broses gomisiynu.

    Ar draws Cymru, mae costau comisiynu cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yn rhedeg i rai cannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn ac mae’n effeithio ar filoedd lawer o bobl.

    Ar ôl cwblhau adolygiad yn ddiweddar o gomisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yng Ngogledd Cymru, mae’r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd faterion o bwys cenedlaethol ehangach ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth iddi gymryd camau mewn ymateb i’w Phapur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth [agorir mewn ffenestr newydd].

    Rydym yn tynnu sylw at yr heriau y dylid eu hystyried fel rhan o’r gwaith cynlluniedig i ddiwygio polisi er mwyn sicrhau newid ystyrlon a gwell canlyniadau i bobl ledled Cymru.

    Rhai ffeithiau allweddol ynglŷn â chomisiynu cartrefi gofal:

    • Mae 677 o gartrefi gofal yng Nghymru; mae 263 o’r rhain yn darparu gofal nyrsio.

    • Mae 96 o’r rhain yn gartrefi gofal sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol.

    • Roedd 16,144 o bobl dros 65 yn derbyn gwasanaethau cartref gofal i oedolion gan awdurdodau lleol yn 2018-19.

    • Yn 2019-20, gwariodd awdurdodau lleol £297 miliwn ar leoliadau nyrsio a phreswyl i bobl dros 65 yng Nghymru.

    Drwy ein hadroddiad rhanbarthol a’n dadansoddiad Cymru gyfan, canfuom:

    • Fod mynediad i gartref gofal i bobl hŷn yn gymhleth ac yn llwybr anodd ei ddilyn.

    • Gall dulliau’r sector cyhoeddus o gyllido agweddau gwahanol ar ofal greu rhaniadau ymhlith partneriaid.

    • Tameidiog yw’r wybodaeth am berfformiad mewn perthynas â chomisiynu iechyd a gofal cymdeithasol ac nid yw’n dangos yn glir a yw nodau polisi yn cael eu cyrraedd ac amcanion llesiant yn cael eu cyflawni ac nid oes tystiolaeth fod newid yn y canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth.

    • Mae’r cydymffurfio technegol gofynnol â gofynion y gronfa gyfun yn methu â chynhyrchu unrhyw fudd pendant.

    • Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn aeddfedu o ran y ffordd y cânt eu llywodraethu a’r ffordd y maent yn gweithredu ond mae’r strwythurau yn fawr ac yn gymhleth ac mae angen eu gwneud yn fwy atebol.

    • Mae amrywiaeth anesboniadwy mewn gwariant ar ofal preswyl a chostau gofal iechyd parhaus, sy’n awgrymu bod polisi’n cael ei gynhwyso’n annheg ar draws Cymru.

    • Mae’r cap ar gyfraniadau defnyddwyr gwasanaeth yn wahanol ar gyfer lleoliadau cartref gofal o gymharu â’r bobl sy’n cael cymorth yn y gymuned, sy’n creu cymhelliant croes posibl i gomisiynwyr gofal.   

    Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ein canfyddiadau drwy ein gwaith yng Ngogledd Cymru, ac y dylai wneud y canlynol yn arbennig:

    1. lleihau cymhlethdod cyfrifoldebau cyllido ar draws partneriaid,

    2. disgrifio a chyfleu’n glir sut y mae’n disgwyl i gronfeydd cyfun weithredu ar draws partneriaid,

    3. cymryd camau i fynnu trefniadau craffu ac atebolrwydd cryfach gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, a

    4. datblygu fframwaith ar gyfer adrodd am berfformiad ar sail canlyniadau, sy’n cysylltu gydag uchelgais polisi a saith nod llesiant Cymru.

    ,
    Er bod y rhan fwyaf o’r problemau a wynebir yn y gwasanaethau gofal yn awr wedi bod yno o’r blaen, mae pandemig COVID-19 wedi datgelu pwysigrwydd y gwasanaethau hyn a hefyd pa mor fregus ydynt ledled Cymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y diwygiadau a gynllunnir ganddi yn datrys y problemau heriol sy’n bod ers amser maith ynghylch comisiynu cartrefi gofal a gofal integredig. Dyma’r cyfle i adeiladu consensws ynglŷn â’r newidiadau sy’n angenrheidiol er mwyn darparu gwasanaethau gwell i’r rhai sydd mewn angen.  Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Comisiynu Cartrefi Gofal ar gyfer Pobl Hŷn

    View more
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Comisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn

    View more