Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae buddsoddi mewn seilwaith yn darparu ysgolion, ysbytai ac amddiffynfeydd rhag llifogydd newydd neu well.

    Ym mis Rhagfyr 2021, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru deng mlynedd, yn ogystal â’r Cynllun Cyllid Seilwaith tair blynedd ategol ar gyfer 2022-23 i 2024-25.

    Mae ein hadroddiad yn ystyried a oes gan Lywodraeth Cymru ddull strategol o roi cymorth i wireddu ei huchelgeisiau ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith.

    Beth ganfuom ni?

    Canfuom fod y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru’n gam yn y cyfeiriad cywir, ond bod angen gwneud mwy i gyflawni manteision ehangach ar draws meysydd buddsoddi. Rydym hefyd yn amlygu’r angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i wreiddio deilliannau’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yn ei fframwaith ehangach ar gyfer rheoli prosiectau a rhaglenni.

    Mae argymhellion ar gyfer gwella wedi eu cynnwys yn ein hadroddiad hefyd.

CAPTCHA