Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru’n gam ymlaen o ran darparu cyfeiriad hirdymor sydd â ffocws ar ddeilliannau
Fodd bynnag, mae angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o feddwl i gyflawni manteision ehangach ar draws meysydd buddsoddi a chryfhau sut y mae’n rheoli rhaglenni a phrosiectau.
Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gwario oddeutu £3.4 biliwn ar seilwaith yn 2025-26. Mae buddsoddi mewn seilwaith yn darparu asedau newydd neu well fel ysgolion, ysbytai ac amddiffynfeydd rhag llifogydd. Gall y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn cynllunio ac yn cyflawni’r buddsoddiadau hynny sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ychwanegol hefyd.
Ym mis Rhagfyr 2021, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru sy’n rhychwantu cyfnod o ddeng mlynedd, yn ogystal â’r Cynllun Cyllid Seilwaith tair blynedd ategol ar gyfer 2022-23 i 2024-25. Canfuom fod y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru’n gam ymlaen ac yn darparu cyfeiriad tymor hwy sy’n canolbwyntio ar 16 o ddeilliannau strategol, sydd wedi’u gwreiddio yn llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Fodd bynnag, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod adrannau’n cynyddu i’r eithaf eu cyfraniadau at y deilliannau hynny. Mae cyfraniadau bwriadedig nifer o feysydd buddsoddi i’w gweld yn anuchelgeisiol. Ar gyfartaledd, adnabu meysydd buddsoddi gyfraniadau disgwyliedig at dri yn unig o’r 16 o ddeilliannau strategol, gyda rhai’n adnabod cyfraniadau disgwyliedig at un yn unig.
Canfuom fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i wreiddio deilliannau’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru o fewn ei fframwaith ehangach ar gyfer rheoli rhaglenni a phrosiectau, sydd ag amryw wendidau eraill. Ac er bod dull gwerthuso Llywodraeth Cymru’n defnyddio egwyddorion arfer da, nid yw wedi cael ei roi ar waith yn gyson ac mae’r deilliannau cyffredinol yn aneglur.
Mae’r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o sicrwydd trwy gynllunio ariannol tymor hwy ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru’n wynebu rhai heriau wrth bennu cynlluniau ariannol tymor hwy, megis bod ei chyllid yn cael ei bennu trwy gylchoedd cyllidebol y DU a chyfyngiadau cylch etholiadol y Senedd. Pennodd Llywodraeth Cymru Gynllun Cyllid Seilwaith un flwyddyn ar gyfer 2025-26, tra’r oedd adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ym mis Mehefin 2025 yn yr arfaeth, ac mae’n ystyried ei hopsiynau ar gyfer Cynlluniau Cyllid Seilwaith yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad yn gwneud 11 o argymhellion ar gyfer gwella yn y meysydd a nodir uchod yn ogystal â chryfhau’r modd yr adroddir yn gyhoeddus ar gynnydd yn erbyn y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.
Mae’r £3 biliwn a mwy y flwyddyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei wario ar seilwaith yn sylweddol. Mae’n dda gweld y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru’n canolbwyntio ar gael mwy o effaith o seilwaith cyhoeddus – yn anad dim yn dilyn cyfnod pan fo chwyddiant a phwysau o ran costau wedi gwasgu cyllidebau cyfalaf. Fodd bynnag, ni fydd y manteision hyn yn dod yn ffaith trwy hyd a lledrith. Mae angen ymdrech ar y cyd i gydlynu peirianwaith y llywodraeth – gan greu cynlluniau ar gyfer y manteision hyn o’r dechrau un a sicrhau y cânt eu cyflawni dros y tymor hwy. Mae’r materion hyn o fewn gallu Llywodraeth Cymru i’w datrys, ond maent yn dibynnu ar welliant parhaus yn y modd y rheolir rhaglenni a phrosiectau, rhywbeth nad yw wedi cael ei gyflawni hyd yma.