• Rhaglen Prentisiaethau Cyllid

Rhaglen Prentisiaethau Cyllid

  • Oes gennych ddiddordeb mewn ennill cyflog wrth ddysgu? Yna dechreuwch eich gyrfa gyda dewis arall yn lle’r brifysgol trwy ymuno â'n Rhaglen Prentisiaethau Cyllid. 

    Mae'r Rhaglen Prentisiaethau Cyllid wedi'i hanelu at y rhai sydd heb raddau, ac mae wedi'i chynllunio i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr cyllid.

    Y disgwyl yw y bydd arweinwyr y dyfodol yn wynebu cyfres wahanol iawn o heriau ac rydym yn cynnig rhaglen lefel sylfaen a fydd yn eich ategu i ddatblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch.

    Bydd y rhaglen yn eich helpu i ennill cymhwyster cyllid Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) tra'n gweithio i gorff gwarchod sector cyhoeddus Cymru. Byddwch yn dilyn rhaglen prentisiaethau cyfnod penodol tair blynedd, yn gweithio gyda'n timau ledled Cymru, i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau archwilio ac i helpu i graffu ar wasanaethau cyhoeddus a'u gwella.

Yn ystod eich contract cyflogaeth tymor penodol tair blynedd, byddwch yn datblygu sgiliau personol, proffesiynol, ariannol ac archwilio i'ch helpu mewn rolau yn y dyfodol. Byddwch yn datblygu sgiliau yn y gwaith wrth weithio o fewn gwahanol dimau, gan gynnwys ein timau Cyllid yn ogystal ag ategu'r archwiliad allanol o nifer o wahanol gyrff y sector cyhoeddus, megis cynghorau, cyrff y GIG, yr Heddlu a Gwasanaethau Tân ac ati.

Byddwch hefyd yn dysgu sut i greu a chynnal perthynas weithio dda yn fewnol ac yn allanol. Disgwylir y bydd lefel y cyfrifoldeb a graddau'r anhawster/cymhlethdod yn y gwaith sy'n ofynnol ohonoch yn cynyddu dros gyfnod y cynllun.

Rydym yn annog ein prentisiaid i gymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad eu hunain ac ymegnïo i wella’u sgiliau a'u gwybodaeth, gan drin aseiniadau newydd fel cyfle i gymhwyso'r hyn y maent wedi'i ddysgu mewn amgylchedd newydd neu i feddu ar wybodaeth newydd.

Mae cyrff cyhoeddus wedi'u gwasgaru ymhell ac agos ledled Cymru, felly bydd angen i chi fod yn hyblyg ynghylch gweithio mewn lleoliad symudol, hybrid, gan weithio cartref rhai dyddiau, a theithio i'r swyddfa neu i safleoedd cleientiaid fel arfer o leiaf ddeuddydd yr wythnos. Er ein bod yn ceisio sicrhau eich bod yn gweithio’n agos i’r man lle rydych yn byw, ni allwn warantu hynny. Fodd bynnag, gallwn warantu na fydd dau ddiwrnod yr un fath a byddwch yn ymuno â sefydliad sydd wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad arweinwyr cyllid y dyfodol. 

Fe gewch ddiwrnodau astudio â thâl ar gyfer cymhwyster ariannol adnabyddus Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT). Byddwch yn cael eich annog a'ch cefnogi drwy gydol eich prentisiaeth i reoli eich datblygiad personol eich hun drwy logiau dysgu ac adolygiadau cynnydd a bydd eich rhaglen hyfforddiant proffesiynol yn cael ei hategu gan weithdai datblygu sgiliau.

Yn ogystal â chefnogaeth eich cyfoedion, bydd gennych reolwr llinell a fydd â chyfrifoldeb hanfodol i'ch datblygu a'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau, a chyfaill i'ch helpu setlo yn eich swydd newydd yn ogystal â darparu cymorth anffurfiol parhaus.

Ar ddiwedd y rhaglen brentisiaeth, yn amodol ar lwyddo ennill cymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) a pherfformiad da, gellir cynnig cyfle i brentisiaid ymuno â rhaglen hyfforddi graddedigion Archwilio Cymru, yn dilyn proses asesu derfynol. Os byddwch yn llwyddiannus, fe gewch hyfforddiant i fod yn weithiwr cyfrifyddu proffesiynol cymwysedig gyda Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW).

Datblygwyd y Rhaglen Brentisiaeth hon fel opsiwn amgen i'r rhai heb radd sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes cyllid i hyfforddi drwy Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu i ddod yn weithiwr cyllid proffesiynol cymwysedig.

Bydd angen o leiaf 3 Lefel A gradd C arnoch mewn unrhyw bwnc, ac o leiaf 5 TGAU A*-C, gan gynnwys gradd B mewn Mathemateg.

Gall ymgeiswyr wneud cais ar gryfder eu graddau lefel A disgwyliedig. Bydd unrhyw gynigion a wneir yn parhau i fod yn amodol ar ennill y cymwysterau academaidd angenrheidiol.

I gael rhagor o fanylion am gymhwysedd, gweler ein hadran Cymhwysedd Cyffredinol.

  • Gwybodaeth Gyffredinol  

    sy'n Gymwys i bob Prentis

Cymhwysedd ar gyfer y Brentisiaeth

I fod yn gymwys am brentisiaeth rhaid i chi fodloni’r canlynol:

  • Mae gennych hawl i fyw a gweithio yn y DU
  • Rydych yn byw yng Nghymru neu mae’ch cyflogwr wedi'i leoli'n barhaol yng Nghymru (rhaid i chi dreulio o leiaf 51% o'ch amser wedi'i leoli yng Nghymru)
  • Rydych wedi ymadael â’r ysgol yn gyfreithiol
  • Rydych yn bwriadu aros mewn cyflogaeth am y 12 mis nesaf
  • Heb gael eich ariannu yn barod ar gyfer cyrsiau hyfforddi eraill gan Lywodraeth Cymru
  • Telir yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol i chi
  • Rydych yn gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos.

Bydd Rhaglenni Prentisiaeth yn derbyn cymorth ariannol drwy Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymwysterau prentisiaeth lle mae gan unigolyn gymhwyster o'r un math, cynnwys a lefel yn flaenorol (nac ar lefel uwch). Ni ddylech ymgeisio am gymhwyster o'r un math, cynnwys a lefel â chymhwyster sydd gennych eisoes.

Fodd bynnag, pe bai'r brentisiaeth yn caniatáu i'r unigolyn ennill sgiliau newydd sylweddol, ac roedd yn amlwg bod cynnwys y cymhwyster yn sylweddol wahanol i unrhyw gymhwyster blaenorol, yna gallai prentisiaeth o'r fath fod yn gymwys i gael arian.

Fel rhan o'r broses recriwtio bydd eich manylion yn cael eu rhannu gyda darparwr hyfforddiant y brentisiaeth. Mae'r darparwyr hyfforddiant yn rhan annatod o'r broses recriwtio gan eu bod yn gyfrifol am gadarnhau cymhwysedd ymgeiswyr i ymgymryd â'r brentisiaeth yn unol â Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Wrth gytuno i barhau â'r broses ymgeisio, rydych yn cytuno i rannu eich manylion gyda'r darparwr hyfforddiant.

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys i wneud cais am raglen hon, cysylltwch â recriwtio.hyfforddai@archwilio.cymru gan nodi'n glir y cymwysterau sydd gennych eisoes.

Noder nad yw'r canllaw a roddir uchod yn ystyried pob amgylchiad ac mae Archwilio Cymru yn cadw'r hawl i wrthod cais os yw o'r farn nad yw unrhyw feini prawf cymhwysedd wedi'u bodloni.

Nid yw unigolyn sydd eisoes yn dal cymhwyster cyllid neu gyfrifo lefel 4 (neu uwch) yn gymwys i wneud cais am y Rhaglen Prentisiaethau Cyllid. Mae enghreifftiau o gymwysterau o'r fath yn cynnwys AAT lefel 4; gradd cyfrifyddiaeth, HNC neu HND; neu gymhwyster cyfrifyddu lefel uwch a ddyfarnwyd gan un o'r sefydliadau cyfrifyddu. Mae'r brentisiaeth hon wedi'i hanelu at y rhai sydd heb unrhyw gymwysterau cyllid blaenorol, fodd bynnag lle mae gan ymgeisydd gymhwyster AAT lefel 2, byddwn yn ystyried yr ymgeiswyr hynny. Pan fydd unigolion yn llwyddiannus sydd eisoes âchymhwyster AAT lefel 2, caiff rhaglen brentisiaeth dwy flynedd ei gynnig iddynt. Nid yw ymgeiswyr Lefel 3 AAT yn gymwys i wneud cais.

Lle'r oedd cymhwyster blaenorol yn cynnwys rhai elfennau cyllid neu gyfrifyddu ar lefel 2 neu'n uwch, ond nad oedd yn gymhwyster cyllid neu gyfrifyddu yn unig, byddai angen ystyried cymwysterau o'r fath ar gyfer cymhwysedd fesul achos.

Byddai disgwyl i gymwysterau mewn pynciau rhifiadol eang megis mathemateg, ystadegau, fodloni'r gofynion o ran bod yn gymwys.

Sut iwneud cais

Rydym ond yn derbyn ceisiadau drwy ein porth ar-lein, ond os ydych am i ni ystyried addasiad rhesymol rhowch wybod i ni mewn da bryd.

Wrth gwblhau eich cais

 

Ymgyfarwyddwch eich hun gyda'r Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, fel eich bod yn deall y swydd a pha gymwysterau, sgiliau a phriodoleddau hanfodol sydd yno ar gyfer y swydd prentis.

Rydym yn chwilio am sut mae eich astudiaethau a/neu brofiad blaenorol mewn gwaith neu ddiddordebau allanol yn eich gwneud yn addas i ddechrau gyrfa fel prentis.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys tystiolaeth o:

  • Eich cymwysterau presennol sy’n bodloni'r safon addysgol isaf a ofynnir amdani
  • Yn eich llythyr eglurhaol rydym am gael gwybod amdanoch chi, pam bod gennych ddiddordeb yn y brentisiaeth a’r hyn sy’n eich diddori a’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni hyd yma, boed hynny mewn gwaith, yn yr ysgol neu goleg, drwy weithgareddau chwaraeon neu wirfoddoli, profiadau neu ymddygiadau sydd gennych a fyddai, yn eich barn chi, yn eich gwneud yn addas ar gyfer y swydd.

Sylwer – defnyddir y ffurflen gais i asesu pob ymgeisydd.  Gall methu â chwblhau'r cais yn fanwl arwain at beidio â symud ymlaen i’r cam asesu. Felly, mae'n arbennig o bwysig cynnwys yr holl gymwysterau academaidd, gan gynnwys y graddau a gyflawnwyd. Rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo â'r Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, er mwyn i chi ddeall y swydd a pha gymwysterau, sgiliau a nodweddion hanfodol rydym yn chwilio amdanynt.

Canolfan Asesu

Bydd pob proses asesu prentisiaid yn cael ei chwblhau gan ganolfan asesu. Bydd canolfan asesu fel arfer yn cynnwys cyfweliad a chwblhau rhyw fath o brawf, gan amlaf ysgrifenedig neu drwy chwarae rôl. Bydd rhagor o wybodaeth am y cam hwn yn cael ei darparu yn nes at yr amser.

Darperir adborth i bob ymgeisydd sy'n mynychu canolfan asesu.

Gwybodaeth gyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein Rhaglen Brentisiaethau, neu os bydd unrhywbeth yn aneglur, mae croeso i chi ebostio recriwtio.hyfforddai@archwilio.cymru.

Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy  

Graduate Blogs