• Application process

Application process

  • Rydym yn gweithredu proses ddethol pedwar cam. Dim ond un cais fesul cylch recriwtio a ganiateir.

Cais ar-lein

I wneud cais, cwblhewch ein ffurflen gais fer. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd nid yn unig yn bodloni ein meini prawf academaidd ond sydd â diddordeb amlwg yn y rhaglen a'r sector cyhoeddus. Wrth gwblhau eich ffurflen gais, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun a'r sgiliau a'r profiadau sydd gennych a sut y bydd y rhain yn eich helpu yn y rôl hyfforddai graddedig. Rydym am weld tystiolaeth o'ch ymrwymiad i'r sector cyhoeddus ac i ennill cyflog a dysgu fel cyfrifydd dan hyfforddiant.

Mae pobl sy'n frwdfrydig am waith Archwilio Cymru yn creu argraff arnom bob amser a sut maen nhw'n teimlo y gallan nhw gyfrannu ato, felly byddem yn eich annog i wneud rhywfaint o ymchwil a meddwl am sut rydych chi'n gweld eich hun yn gweithio gyda ni.

Rydym hefyd yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Gan ein bod yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd, rydym yn gwarantu y bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl yn gwneud y prawf seicometreg.

Ar ôl ei gwblhau, mae ein sgrinwyr hyfforddedig yn marcio eich cais. Os ydych yn bodloni'r marc gofynnol sydd ei angen, cewch eich symud ymlaen i Gam 2, cwblhau profion seicometreg.

 Awgrym: Y ffurflen gais yw eich cyfle i werthu'ch hun a sefyll allan o’i gymharu â’r ymgeiswyr eraill. Ceisiwch sicrhau hefyd eich bod yn deall y rôl, a'r sefydliad ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn eich cais. Gwnewch yn siŵr eich bod yn manylu ar eich gofynion academaidd gan y gallai methu â dangos eich bod yn bodloni'r gofynion academaidd a allai arwain at eich hidlo allan.

Profion seicometrig

Ar ôl i chi basio'r cam hidlo yn llwyddiannus, gofynnir i chi gwblhau ychydig o brofion seicometreg. Mae'r profion hyn yn adlewyrchu'r sgiliau a'r ddawn yr ydym yn chwilio amdanynt yn y rôl i raddedigion.

Os byddwch yn llwyddo i basio'r profion hyn, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i gam y ganolfan asesu.

Awgrym: Rydym yn argymell eich bod yn gwneud o leiaf un ymarfer o bob prawf yn gyntaf cyn cwblhau'r profion. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o'r mathau o gwestiynau a ofynnir a pha mor hir y byddant yn mynd ei gymryd i'w hateb. Mae'n ffordd wych o baratoi, eich helpu i ymlacio a pherfformio hyd eithaf eich gallu.

Canolfan asesu

Bydd hyn yn golygu nifer o ymarferiadau unigol ac mewn grŵp lle cewch eich asesu yn ôl y disgrifiad swydd/manyleb person a’r gwerthoedd a’r ymddygiadau.

Caiff rhagor o fanylion am y ganolfan asesu eu darparu os gwahoddir chi i fod yn bresennol.

Os byddwch yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu, cewch eich gwahodd i gam 3 yn y broses asesu.

Cyfweliad

Cyfweliad gan banel fydd y cyfweliad terfynol a fydd hefyd yn gyfle gwych ichi ofyn unrhyw gwestiynau i ni am ein sefydliad a’r rhaglen hyfforddi.

Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy  

Graduate Blogs