• Beth fydd ei angen arnoch chi

Beth fydd ei angen arnoch chi

Mae gennym ddiddordeb gwirioneddol mewn gwybod pwy ydych chi, beth yw eich cryfderau a’ch potensial.  

Beth bynnag yw disgyblaeth eu gradd, rydym yn chwilio am unigolion gyda chefndir academaidd da iawn sydd wedi ymrwymo i wella gwasanaethau sector cyhoeddus ac yn ystyried eu hunain yn arweinwyr y dyfodol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.   

Byddwch angen:

  • Gradd dosbarth 2:1 mewn unrhyw ddisgyblaeth neu 2:2 lle mae gennych gymwysterau ychwanegol fel gradd meistr
  • Canlyniadau academaidd da iawn ar lefel Safon Uwch neu academaidd gyfatebol
  • TGAU Saesneg laith lefel 4/C
  • TGAU Mathemateg lefel 5/B

Byddwch:

  • Wedi ymrwymo i weithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
  • Bod yn naturiol chwilfrydig, yn hyderus wrth herio ac wrth gael eich herio ond mewn modd proffesiynol
  • Gallu dangos sylw rhagorol i fanylion tra'n gallu gweld y darlun ehangach
  • Gallu dangos sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Gallu dangos sgiliau holi a gwrando da
  • Gallu dangos gwydnwch i gydbwyso gofynion gweithio ochr yn ochr â hyfforddiant proffesiynol
  • Gallu dangos sgiliau rhyngbersonol da gydag ethos gweithio mewn tîm; a
  • Gallu dangos cymhelliant ac ymrwymiad i fod yn gyfrifydd.

Mae rhagor o wybodaeth am y sgiliau a’r galluoedd sy’n angenrheidiol ar gyfer y swydd i’w chael yn y disgrifiad swydd [agorir mewn ffenestr newydd].

Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y Gymraeg yn ein gwaith ac yn anelu at ddarparu gwasanaeth dwyieithog i bawb sydd am ei defnyddio.

Ein nod yw bod gan o leiaf 20% o'n carfan hyfforddeion graddedig sgiliau Cymraeg. Felly, hoffem annog ceisiadau gan unigolion sydd â sgiliau Cymraeg i'n helpu i gyflawni'r nod hwn. Os ydych chi'n siaradwr Cymraeg ac yn awyddus i ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg yn y gweithle, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Os byddwch yn llwyddiannus ac nad oes gennych sgiliau Cymraeg ar hyn o bryd, peidiwch â phoeni. Gallwn eich cefnogi i ddysgu Cymraeg os dymunwch a byddwn hefyd yn eich cefnogi i ddatblygu sgiliau Cymraeg sylfaenol i gyflawni ein hymrwymiadau Cymraeg.

Mae'r sgiliau Cymraeg canlynol yn ddymunol ar gyfer y rôl hon. Cyfeiriwch at ein matrics sgiliau iaith [agorir mewn ffenestr newydd] i gael disgrifiad o'r gwahanol lefelau sgiliau.

Cysylltwch â ni os hoffech drafod natur y sgiliau Cymraeg a bennwyd ar gyfer y rôl hon.

Sgiliau Cymraeg - dymunol

  • Darllen - yn gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol sy'n gysylltiedig â gwaith gyda chymorth e.e. geiriadur
  • Llafar - yn gallu cynnal rhai sgyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith
  • Deall - yn gallu deall sgyrsiau arferol sy'n gysylltiedig â gwaith
  • Ysgrifenedig - yn gallu paratoi deunydd arferol sy'n gysylltiedig â gwaith gyda gwirio
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy  

Graduate Blogs