Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Allech chi fod ein Brentis Gwyddor Data nesaf?

01 Mawrth 2024
  • A yw data a dadansoddeg yn eich swyno? Ydych chi'n ddatryswr problemau uchelgeisiol? Hoffech chi ddysgu sut i godio?

    Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Prentis Gwyddor Data.

    Beth sy’n gynwysiedig?

    Mae'r brentisiaeth yn rhaglen tair blynedd wedi'i hariannu'n llawn sy'n eich ategu i ennill gradd mewn gwyddor data tra'n datblygu profiad gwerthfawr yn y swydd. Bydd eich rhaglen waith yn amrywio a byddwch hefyd yn cael rhyddhad diwrnod i astudio ar gyfer eich gradd mewn gwyddor data ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

    Byddwch yn ymuno â thîm sy'n gyfrifol am bob agwedd ar y ffordd rydym yn defnyddio data yma yn Archwilio Cymru. Yn eich rôl o ddydd i ddydd, rhai o'r swyddogaethau y byddwch chi'n ymwneud â nhw yw:

    1. Arwain ymchwil a datblygu i dechnegau ac offer data arloesol.
    2. Adeiladu offer data sydd ag effaith a'u gwreiddio fel rhan arferol newydd o'n gwaith.
    3. Sbarduno moderneiddio archwiliad ariannol a pherfformiad drwy ei wneud yn fedrus o ran data.

    Beth yr ydym yn chwilio amdano?

    Rydym yn chwilio am rywun sydd wedi ymrwymo i ddysgu ac sy'n frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant i ymuno â'n timau. Nid oes angen unrhyw brofiad.

    Cychwyn ar eich gyrfa broffesiynol yn unig? Chwilio am newid gyrfa? Nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran ar ein prentisiaeth.

    Pam dewis ein cynllun?

    Rydym yn gofalu am eich dysgu a'ch datblygiad ac yn buddsoddi yn ein pobl. Bydd gennych fynediad at becyn hyfforddi gwych, cynllun mentora a thrwyddedau LinkedIn. Ar ben hyn, mae gennym hefyd restr wych o fuddion, gan gynnwys:

    • Cyflog hael
    • Mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
    • Disgowntiau siopa
    • Cynllun Cycle2Work
    • A llawer mwy!

    Gallwch ddarganfod mwy am y cynllun ar ein gwefan. Neu gallwch ddarganfod beth yw barn ein prentisiaid presennol a'n gorffennol am y cynllun ar ein tudalen blog.