Mae Anne- Louise Clark wedi’i phenodi fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu a Newid Archwilio Cymru.
Bydd Anne-Louise Clark yn gyfrifol am gyflawni rhaglen newid a thrawsnewid digidol Archwilio Cymru ynghyd â sicrhau bod y sefydliad yn cyfathrebu’n effeithiol yn fewnol ac yn allanol i gyflawni uchelgeisiau Archwilio Cymru.
Mae Anne Louise yn ymuno ag Archwilio Cymru o Gyngor Sir Blaenau Gwent ble mae’n aelod o’u Tîm Arweinyddiaeth Corfforaethol ac yn rheoli portffolio eang o wasanaethau gan gynnwys Cyfathrebu a Marchnata, Profiad Cwsmer, Trawsnewid, Digidol, Adnoddau Dynol, Cefnogaeth Busnes a Chaffael. Mae ei gwaith yn y Cyngor yno i arwain tîm i greu sefydliad sy’n meddwl yn fasnachol ac sy’n aeddfed yn ddigidol.
Cyn ymuno â Blaenau Gwent, roedd Anne Louise yn Bennaeth Trawsnewid a Newid ym Mwrdeistref Llundain, Bexley.