Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Ansicrwydd y bydd yr uchelgais ar gyfer sector cyhoeddus sero-net yn cael ei gyflawni, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol

14 Gorffennaf 2022
  • Adroddiad yn galw am arweiniad cryfach gan y sector cyhoeddus ar leihau allyriadau carbon yng Nghymru

    Mae angen i gyrff cyhoeddus wneud mwy yn eu hymgyrch i ddatgarboneiddio, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

    Mae ein hadroddiad yn dangos ymrwymiad y sector cyhoeddus i leihau allyriadau carbon a'r gweithgarwch sylweddol sy'n digwydd i leihau allyriadau carbon. Fodd bynnag, mae angen i gyrff cyhoeddus gyflymu eu gweithgarwch yng nghanol ansicrwydd amlwg ynghylch a fyddant yn cyflawni'r uchelgais gyfunol i gael allyriadau carbon sero-net erbyn 2030. Mae rhwystrau gwirioneddol y mae angen i gyrff cyhoeddus fynd i'r afael â nhw, ac mae angen rhoi datgarboneiddio wrth wraidd eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.

    Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi ymrwymo i raglen waith barhaus ar newid yn yr hinsawdd. Yr adroddiad 'Parodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net erbyn 2030' yw ein darn cyntaf o waith sy'n edrych ar ddatgarboneiddio mewn 48 o gyrff sector cyhoeddus mwy.

    Yn yr adroddiad, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gwneud y bum alwad ganlynol am weithredu gan gyrff cyhoeddus:

    • Cryfhau eich arweinyddiaeth a dangos eich cyfrifoldeb ar y cyd drwy gydweithio effeithiol;
    • Egluro eich cyfeiriad strategol a chynyddu eich cyflymder gweithredu;
    • Mynd i'r afael â'r cyllid sydd ei angen arnoch;
    • Gwybod eich bylchau mewn sgiliau a chynyddu eich gallu; a
    • Gwella ansawdd data a monitro i gefnogi eich penderfyniadau.

    Canfu ein hadolygiad fod cyrff cyhoeddus ar gamau gwahanol iawn o ran datblygu eu cynlluniau gweithredu datgarboneiddio. Roedd traean o'r sefydliadau yn dal i fod yng nghamau cychwynnol datblygu cynllun datgarboneiddio ar adeg ein galwad am dystiolaeth.

    Canfu ein hadolygiad mai dim ond dau o'r cyrff a ymatebodd i'n galwad am dystiolaeth oedd yn teimlo eu bod wedi asesu'n llawn oblygiadau ariannol cyflawni uchelgais 2030. Roedd cyrff cyhoeddus yn glir iawn y bydd angen buddsoddiad sylweddol. Er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu rhywfaint o gymorth ariannol ychwanegol, bydd yn rhaid i gyrff cyhoeddus feddwl am sut y gallant ddefnyddio'r cronfeydd presennol mewn ffyrdd gwahanol a rhannu costau ag eraill.

    Canfu ein hadolygiad hefyd broblemau eang o ran capasiti a bylchau sgiliau. Dywedodd cyrff cyhoeddus wrthym fod pwysau ar eu hadnoddau i ddarparu gwasanaethau craidd ac nad oes ganddynt y sgiliau arbenigol o reidrwydd i fynd i'r afael â natur gymhleth datgarboneiddio. Mae angen i gyrff cyhoeddus manteisio ar gyfleoedd i rannu'r wybodaeth, yr arbenigedd a'r capasiti sy'n bodoli yn y sector cyhoeddus yn ogystal â'r sector preifat a'r trydydd sector. Mae angen cydweithredu yn awr yn fwy nag erioed.

    Mae data yn bŵer wrth sôn am ddatgarboneiddio. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn galw ar gyrff cyhoeddus i wella eu dealltwriaeth o'u hallyriadau carbon yn gyflym wrth i'n hadolygiad ganfod bod materion data yn rhwystr mawr rhag cael cyd-ddealltwriaeth o'r broblem.

    ,
    Nid oes dim amheuaeth bod cyrff cyhoeddus yn cymryd newid yn yr hinsawdd o ddifrif, ond mae angen iddyn nhw wneud mwy. O ystyried lefel yr ansicrwydd ynghylch a fydd uchelgais gyfunol 2030 yn cael ei chyflawni, dyma'r amser ar gyfer arweinyddiaeth feiddgar. Mae angen i sefydliadau fod yn arloesol, rhannu profiadau o'u llwyddiannau a'u methiannau ac mae angen iddyn nhw roi datgarboneiddio wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud. Mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn effeithio arnom ni yng Nghymru, a bydd angen i ni addasu i hinsawdd sy'n newid ar yr un pryd â lleihau ein hallyriadau carbon. Byddaf yn parhau i 'daflu goleuni' ar ymateb y sector cyhoeddus i newid yn yr hinsawdd mewn darnau pellach o waith. Un enghraifft fydd fy ngwaith ar reoli perygl llifogydd i'w gyhoeddi yn yr Hydref. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Parodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net erbyn 2030

    View more