Gydag arweinwyr y byd yn ymgynnull yn Glasgow ar gyfer COP26 yr wythnos hon, rydym yn cyflymu ein gwaith, gyda'r nod o graffu ac ysbrydoli gwelliant mewn gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Heddiw, rydym wedi lansio galwad am dystiolaeth mewn tua 50 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru i ofyn am yr hyn y maent yn ei wneud i leihau allyriadau carbon a chyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus carbon niwtral yn 2030.