Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Chwe cham tuag at graffu gwell yng Nghymru

09 Tachwedd 2020
  • Mae papur trafod a rhestr wirio wedi'u lansio er mwyn helpu i wella'r ffordd mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn cael eu dwyn i gyfrif

    Mae papur trafod a rhestr wirio chwe phwynt wedi'u paratoi ar gyfer cynghorau yng Nghymru er mwyn helpu i wella swyddogaethau trosolwg a chraffu. Mae cyhoeddiad heddiw dod â rhai themâu a materion cyffredin sydd wedi'u nodi yn ystod gwaith archwilio ar draws y 22 o awdurdodau lleol yn ystod 2017-18 at ei gilydd.

     

    Mae'r papur trafod yn tynnu sylw at chwe maes allweddol y gallai llawer o gynghorau fyfyrio arnynt yn sgil heriau'r presennol a'r dyfodol.

    • Mewn rhai cynghorau erys rhywfaint o ddryswch sylfaenol a chamddealltwriaeth ynghylch rolau a chyfrifoldebau yn ymarferol.
    • Mae llawer o gynghorau yn dal i ddweud bod angen iddynt wella'r ffordd maent yn ymgysylltu â'r cyhoedd.
    • Mae angen gwelliannau i'r ffordd mae cynghorau'n blaenoriaethu ac yna'n cynllunio eu gweithgarwch craffu i wella ei effaith.
    • Efallai y bydd angen i rai cynghorau ystyried adolygu cymorth a hyfforddiant i aelodau o bwyllgorau craffu.
    • Nid yw'r rhan fwyaf o gynghorau'n gwerthuso'n rheolaidd effeithiolrwydd eu swyddogaethau craffu.
    • Mae angen i Lywodraeth Cymru a Chynghorau ystyried sut y mae'r themâu hyn yn effeithio ar rôl trefniadau llywodraethu lleol.

    Mewn ymateb i'r materion hyn, ac i gynorthwyo cynghorau i wella, mae chwe cham wedi'u nodi er mwyn helpu i wneud craffu yn ‘barod at y dyfodol.’ Mae hyn wedi'i gynllunio i fod yn rhestr wirio i gynghorwyr:

    1. Gwybod beth yw eich rôl
    2. Gwybod beth yw eich pwerau a'r hyn sy'n ‘bosibl’ mewn craffu
    3. Gwybod beth rydych yn ceisio ei gyflawni
    4. Cynllunio eich gwaith craffu i gyflawni eich nodau
    5. Cynllunio trefniadau cymorth i gyflawni eich nodau
    6. Gwerthuso effeithiolrwydd gweithgarwch craffu'n rheolaidd a gwneud newidiadau'n seiliedig ar adborth

    Meddai'r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton:

    “Mae craffu ym maes llywodraeth leol yn rhan hanfodol o atebolrwydd democrataidd ac mae gan y cyhoedd hawl i gael sicrwydd bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn cael eu dwyn i gyfrif mewn ffordd briodol ac effeithiol. Ond mae rhai themâu cyffredin y mae fy archwilwyr wedi'u nodi ar draws Cymru y gallai cynghorau fyfyrio arnynt i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd eu swyddogaethau craffu. Rwy'n gobeithio y bydd y papur trafod a'r rhestr wirio yn ganllaw defnyddiol i gynghorau a chynghorwyr wrth iddynt geisio gwella eu dull.”

    Diwedd

    Nodiadau i Olygyddion:

    • Mae'r rhestr wirio a'r papur trafod wedi'u paratoi yn dilyn gwaith archwilio ar draws y 22 o brif gynghorau yng Nghymru yn ystod 2017-18.
    • Yn ystod ein gwaith archwilio, ystyriwyd sut y mae cynghorau'n ymateb i heriau presennol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 mewn perthynas â'u gweithgarwch craffu, yn ogystal â sut mae cynghorau'n dechrau ymgymryd â chraffu ar Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus. Ystyriwyd hefyd a yw cynghorau mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau'r dyfodol fel pwysau parhaus ar gyllid cyhoeddus a'r symudiad posibl tuag at fwy o weithio rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol.
    • Gwnaethom gyhoeddi adroddiadau ar wahân gyda chynigion ar gyfer gwella i bob un o'r 22 o brif gynghorau.
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am yr archwiliad blynyddol o'r rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o gronfeydd y pleidleisir yn flynyddol arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae elfennau o'r cyllid hwn yn cael eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio yr Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe'i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn destun cyfarwyddyd neu reolaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol na'r llywodraeth.
    • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys naw aelod o'r Bwrdd statudol sy'n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr ac yn Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Papur Trafod: Chwe thema er mwyn helpu i wneud craffu yn ‘Barod at y Dyfodol’

    Gweld mwy