Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Colled sylweddol i bwrs cyhoeddus oherwydd gweithgarwch anghyfreithlon a llywodraethu gwael mewn cynghorau cymuned

14 Hydref 2021
  • Gweithgarwch anghyfreithlon a methiant i arfer safonau gofynnol o reolaeth ariannol a llywodraethu yng Nghyngor Cymuned Ynysawdre, Llangynwyd Ganol ac Abertyleri a Llanhiledd.

    Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi nodi camddefnydd o arian cyhoeddus er budd personol mewn achosion lle mae cynghorwyr wedi methu â chyflawni eu cyfrifoldebau oherwydd llywodraethu a rheolaeth ariannol gwael yn ei adroddiadau er budd y cyhoedd a gyhoeddwyd heddiw.

    Yn gynharach yr wythnos hon, gwnaethom gyhoeddi adroddiadau er budd y cyhoedd yn nodi sut y cafodd cynghorau unigol eu hunain mewn sefyllfa anodd oherwydd llywodraethu gwael a rheolaeth ariannol. Mewn rhai achosion eithafol, gall diffyg llywodraethu priodol arwain at golledion sylweddol i'r pwrs cyhoeddus. Heddiw, rydym yn adrodd ar 3 achos o'r fath.

    Nododd ein harchwiliad fod Cyngor Cymuned Llangynwyd Ganol a Chyngor Cymuned Ynysawdre wedi methu â monitro swyddi ariannol yn ddigonol ac arfer safonau gofynnol disgwyliedig o ran rheolaeth ariannol a llywodraethu. Roedd y methiant hwn yn caniatáu i gyn Glerc y ddau Gyngor wneud taliadau anghyfreithlon iddi hi ei hun, sef cyfanswm o dros £116,000 dros gyfnod o 4 blynedd. Methodd y cynghorau â goruchwylio a chraffu'n briodol ar y taliadau hyn a wnaed gan eu cyn Glerc. 

    Methodd cynghorwyr Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd â chraffu'n briodol ar arian rhodd a thaliadau eraill i'w gyn Glerc gan arwain at golled o dros £27,000. Methodd cynghorwyr hefyd â sicrhau bod ganddynt drefniadau digonol ar waith i sicrhau gwerth am arian wrth brynu nwyddau a gwasanaethau. Roedd methiannau sylweddol gan y cyngor yn golygu nad oeddent yn bodloni gofynion deddfwriaethol wrth reoli materion ariannol ac yn ei ddyletswydd i weithredu a chynnal archwiliadau mewnol effeithiol.

    Mae'r adroddiadau'n amlinellu nifer o argymhellion i Gyngor Cymuned Llangynwyd Ganol a Chyngor Cymuned Ynysawdre sy'n canolbwyntio ar:

    • Rheoli cofnodion cyfrifyddu allweddol
    • Adolygiad o reolaethau mewnol
    • Craffu ac adolygu'r modd y cyflawnir cyfrifoldebau'r Clerc
    • Rheolaeth ariannol a hyfforddiant llywodraethu
    • Adennill taliadau anghyfreithlon
    • Penodi archwilydd mewnol

    Yn achos Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd, rydym yn argymell bod y Cyngor yn ystyried a ddylid ceisio adennill y taliadau anghyfreithlon y cyfeirir atynt yn ein hadroddiad.

    ,
    Mae rheolaeth ariannol a llywodraethu annigonol wedi arwain at fanteisio ar fethiannau'r cyngor er budd personol gan unigolion penodol a cholled sylweddol o arian cyhoeddus. Mae'r 3 adroddiad hyn yn dangos pa mor bwysig yw cael systemau, rheolaethau a chraffu priodol ar waith er mwyn diogelu'r pwrs cyhoeddus. Rwy'n annog pob un o'r 3 chyngor i nodi'r argymhellion rydym wedi'u gwneud. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cyngor Cymuned Ynysawdre- Rheolaeth Ariannol Annigonol a Cholledion i Bwrs y Wlad

    View more
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cyngor Cymuned Llangynwyd Ganol - Rheolaeth ariannol annigonol a cholledion i bwrs y wlad

    View more
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd - Taliadau anghyfreithlon a methiannau llywodraethu

    View more