Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Er gwaethaf argymhellion blaenorol, a datganiadau o fwriad da gan y Cyngor, nid oes digon o gynnydd wedi'i wneud i fynd i'r afael â materion llywodraethu critigol
Mae lefelau isel o ymgysylltiad aelodau mewn hyfforddiant a datblygiad personol, ac achosion o ymddygiad gwael a pherthnasoedd sydd wedi torri ar y lefel uwch i gyd yn ffactorau sy'n peryglu gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau a llywodraethu, ac enw da'r Cyngor.
Mae arddangos gwerthoedd ac ymddygiadau cadarnhaol yn gyson yn hanfodol ar gyfer llywodraethu da. A heb lywodraethu da, ni ellir sicrhau bod y Cyngor yn sicrhau ei fod yn cyflawni gwerth am arian i bobl Wrecsam.
Dyma ein hail adolygiad o werthoedd ac ymddygiadau yn Wrecsam ers 2023. Canfu ein harchwiliad blaenorol, a oedd yn canolbwyntio ar y Gwasanaeth Cynllunio, fod oedi parhaus wrth fabwysiadu dogfennau strategol allweddol wedi creu risgiau sylweddol i'r Cyngor a bod y berthynas rhwng rhai aelodau a swyddogion wedi torri. Canfuom fod y Gwasanaeth Cynllunio yn cael ei rwystro rhag cyflawni ei rôl fel galluogwr allweddol ar draws y Cyngor.
Canfu'r adolygiad dilynol hwn, a archwiliodd werthoedd ac ymddygiadau ar lefel uwch ar draws y Cyngor, nad yw'r Cyngor wedi mynd i'r afael â'n hargymhellion blaenorol yn llawn. Rydym yn parhau i fod â phryderon am berthnasoedd sydd wedi torri rhwng rhai aelodau a swyddogion. Ychydig iawn o ymwybyddiaeth o'r rolau a'r cyfrifoldebau disgwyliedig y mae’r Cyngor yn ei dangos.
Rydym wedi gwneud tri argymhelliad pellach yn ychwanegol at yr argymhellion a wnaed yn 2024. Nod yr argymhellion newydd hyn yn bennaf yw arddangos y gwerthoedd a'r ymddygiadau a ddymunir yn fwy cyson. Maent wedi'u targedu at rai camau sylfaenol yn fframwaith llywodraethu'r Cyngor:
Mae cynghorwyr a swyddogion yn dibynnu ar ei gilydd, ac mae perthnasoedd sy'n seiliedig ar barch i'r ddwy ochr yn hanfodol ar gyfer llywodraethu da. Y pryderon mwyaf am berfformiad effeithiol y Cyngor yw'r perthnasoedd dan straen parhaus a'r diffyg ymddiriedaeth rhwng rhai aelodau ac uwch swyddogion. Oni bai ei fod yn cael ei ystyried ar frys ac yn wirioneddol, bydd hyn yn tanseilio gwaith cadarnhaol y Cyngor a’i weithlu yn ehangach. Mae'n hanfodol bod y Cyngor yn cymryd camau uniongyrchol a phenderfynol i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol hyn o lywodraethu da a diwylliant.