Sicrhawyd arbedion a rheolwyd risgiau i sicrhau cyflawni ar amser, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi arbed cymaint â'r disgwyl ac mae lle i wella'r broses o olrhain costau a buddion.
Yn 2017, penderfynodd Llywodraeth Cymru symud oddi wrth fodel TGCh ar gontract allanol i fodel cyrchu mewnol i raddau helaeth, gan ddechrau ym mis Ionawr 2019. Roedd yr achos busnes i gyrchu TGCh yn fewnol yn gynhwysfawr ac yn nodi amcanion clir, gyda chymysgedd o fuddion ariannol a rhai heb fod yn ariannol.
Er mwyn helpu i gyflawni'r newid hwn, ymchwiliodd Llywodraeth Cymru anghenion ei staff, dysgu gan sefydliadau eraill a siarad â Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU i gael cyngor.
Roedd arbedion yn rhan sylfaenol o'r achos busnes i ddod â gwasanaethau TGCh yn fewnol. Arbedwyd oddeutu £4.9 miliwn yn 2019-20, ond nid yr £8.1 miliwn llawn a ragwelwyd. Roedd y diffyg hwn yn bennaf oherwydd costau meddalwedd cynyddol a chostau ychwanegol i gontractwyr o ganlyniad i swyddi heb eu llenwi.
Yn ogystal ag arbedion, bu cyflwyno 6,000 o liniaduron newydd erbyn diwedd 2019 yn hollbwysig i helpu staff i weithio gartref yn ystod pandemig COVID-19. Cyfrannodd hyn at ostyngiad o £23,000 mewn costau teithio yn 2019-20, a disgwylir gostyngiadau llawer mwy yn 2020-21. Roedd buddion eraill nad oeddynt yn rhai ariannol yn cynnwys lleihau allyriadau carbon drwy lai o argraffu a chau canolfan ddata.
Mae nifer y digwyddiadau TGCh difrifol wedi gostwng yn raddol ers trosglwyddo i wasanaeth mewnol, ac mae boddhad defnyddwyr â gwasanaethau TGCh wedi gwella. Fodd bynnag, bu gostyngiad ym mherfformiad desg gwasanaeth TGCh, sydd yn fwyaf tebygol oherwydd diffyg staff.
Mae'r argymhellion yn canolbwyntio ar wella'r broses o olrhain buddion a chostau, diweddaru'r dangosyddion perfformiad ar gyfer gwasanaethau TGCh, ac ailedrych ar lefelau staffio er mwyn sicrhau bod buddion llawn y newid hwn yn cael eu gwireddu.