Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Gwersi i Lywodraeth Cymru ar ôl colli £1.6 miliwn o gyllid ar gyfer Canolfan Forol

13 Awst 2025
  • Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at fethiannau sylfaenol yn y ffordd y cafodd cymorth ariannol ar gyfer Prosiect Canolfan Forol Porthcawl ei reoli

    Hyd yn oed pan fo gan gyllidwyr grant drefniadau cadarn ar gyfer rheoli risg, mae’n debygol y bydd rhai prosiectau yn methu. Ond collwyd rhybuddion clir a chyfleoedd i atal neu leihau’r golled debygol i bwrs y wlad.

    Ym mis Mawrth 2016 a mis Ionawr 2017, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru gyfanswm o £2.7 miliwn o gyllid posibl ar gyfer ‘Canolfan Forol’ newydd ar lan yr harbwr ym Mhorthcawl. Roedd y £2.7 miliwn yn cynnwys arian cyfatebol domestig gan Lywodraeth Cymru a grant Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).

    Yn seiliedig ar ganfyddiadau archwilio cychwynnol, cyfeiriwyd materion yn ymwneud â phrosiect y Ganolfan Forol, a’r rhan y chwaraeodd Credu ynddo, at Heddlu De Cymru. Daeth ymchwiliad yr heddlu i ben ar ddiwedd 2024, ac ni chafodd unrhyw gyhuddiadau eu dwyn. Gydag ymchwiliad yr heddlu wedi’i gwblhau, rydym wedi gallu gorffen ein gwaith a chyhoeddi’r adroddiad hwn. 

    Credu Charity Ltd (Credu) oedd yn gyfrifol am arwain prosiect y Ganolfan Forol, er iddo weithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth ei ddatblygu. Ym mis Tachwedd 2020, cafodd Credu ei ddatodi’n wirfoddol ac ni chafodd y Ganolfan Forol ei hadeiladu. Rhwng mis Mai 2016 a mis Mawrth 2020, talodd Llywodraeth Cymru £1.6 miliwn i Credu ar gyfer prosiect y Ganolfan Forol. Ym mis Awst 2020, tynnodd Llywodraeth Cymru gyllid grant ERDF yn ôl oddi wrth Credu, a’r bwriad oedd y byddai’n adennill yr holl daliadau grant cysylltiedig. Gwnaeth hynny yn sgil pryderon am gostau cynyddol y prosiect a chynnydd y prosiect a’i drefniadau cyllido ehangach.  

    Yn ein barn ni, ni roddodd Llywodraeth Cymru drefniadau priodol ar waith i reoli’r risgiau a oedd yn gysylltiedig â’r Ganolfan Forol. Pe bai wedi gwneud hynny, efallai y byddai wedi penderfynu peidio ag ariannu’r prosiect neu, unwaith yr oedd wedi’i ariannu, byddai wedi nodi bod y prosiect yn methu yn llawer cynt. Mae datodiad Credu yn mynd rhagddo, ond mae’n edrych yn annhebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn adennill unrhyw daliadau y mae’n eu hawlio.

    Cawsom fod diffyg eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau rhwng rhannau gwahanol o Lywodraeth Cymru – Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a Croeso Cymru – wedi cyfrannu at fonitro a goruchwyliaeth aneffeithiol. Nid oedd diwydrwydd dyladwy ar gyfer prosiect y Ganolfan Forol yn ddigon trylwyr ac fe ddigwyddodd yn rhy hwyr, gydag arian cyhoeddus wedi’i ymrwymo i brosiect risg uchel nad oedd arian cyfatebol wedi’i sicrhau ar ei gyfer. Roedd rheolaethau gwan hefyd ynghylch prosesu hawliadau gwariant.

    Nid ydym yn gwneud argymhellion penodol yn yr adroddiad hwn. Yn rhannol, mae hyn yn adlewyrchu’r amser sydd wedi mynd heibio ers y digwyddiadau a ddisgrifir gennym, tra bod y dirwedd o ran cyllid grant wedi newid yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE. Fodd bynnag, mae gwersi clir i’w dysgu o’r achos hwn.

    Rydym yn nodi ar ddiwedd yr adroddiad hwn y camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i fynd i’r afael â materion sy’n deillio o’r gwaith rydym wedi’i wneud ers i ni rannu’r hyn a ddaeth i’r amlwg. Mae hyn wedi cynnwys adolygiad archwilio mewnol o brosiectau eraill wedi’u hariannu drwy gyllid grant a oruchwyliwyd gan Croeso Cymru ar yr un pryd â phrosiect y Ganolfan Forol. Mae hefyd wedi cynnwys rhywfaint o waith datblygu pellach o ran prosesau a chanllawiau rheoli grantiau ar gyfer y sefydliad cyfan.

    ,
    Mae pob prosiect a ariennir drwy gyllid grant yn cynnwys elfen o risg. Ond nid dyma’r tro cyntaf i mi, na fy rhagflaenwyr, nodi gwendidau yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r cymorth y mae’n ei roi i elusennau neu gwmnïau preifat. Er bod amser wedi mynd heibio ers y digwyddiadau a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn, roedd methiannau sylfaenol yn yr achos hwn ac mae’r gwersi a ddysgwyd yn dal i fod yn berthnasol heddiw. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Canolfan Forol Porthcawl a fethodd

    Gweld mwy