Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Her i Barciau Cenedlaethol yng Nghymru gydbwyso annog twristiaeth gyda gwarchod yr amgylchedd naturiol

12 Gorffennaf 2022
  • Darllenwch fwy yn ein gwaith diweddaraf ar Barciau Cenedlaethol

    Mae'r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o reoli'r amgylchedd ac annog ymwelwyr i fwynhau'r awyr agored.

    Mae tua 12 miliwn o bobl yn ymweld â pharciau cenedlaethol Cymru bob blwyddyn, sy'n helpu i wella iechyd a lles pobl.

    Gan ddefnyddio ein gwaith diweddar ar dwristiaeth gynaliadwy, rydym yn ystyried rhai o'r heriau y mae’r Awdurdodau Parc Cenedlaethol yn eu hwynebu wrth gyflawni eu dibenion a'u dyletswydd statudol.

    ,
    Mae pob un o'r tri pharc – Eryri, Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog – yn cydnabod bod COVID-19 a COP26 wedi dod â'r argyfwng natur i'r amlwg wrth i nifer yr ymwelwyr gynyddu gan achosi mwy o ddifrod a risg i fioamrywiaeth ein parciau.  
    ,

    Nid oes gan yr Awdurdodau Parc Cenedlaethol yr adnoddau na'r pwerau i reoli na dylanwadu ar nifer y bobl sy'n ymweld â'u hardaloedd, na'u hymddygiad a'u heffaith.

    Yn ogystal, mae busnesau twristiaeth yn gwerthfawrogi gwaith yr Awdurdodau Parc Cenedlaethol yn bennaf ond nid ydynt yn credu bod ganddynt y cydbwysedd cywir rhwng eu dau ddiben statudol – gwarchod a gwella harddwch naturiol a hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd fwynhau'r parciau.

    Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ein canfyddiadau wrth ddatblygu a phennu eu blaenoriaethau ar gyfer Awdurdodau Parc Cenedlaethol, er mwyn helpu i weithredu polisi cenedlaethol yn effeithiol.  

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Twristiaeth Gynaliadwy ym Mharciau Cenedlaethol Cymru

    View more